Dathlu hanes Iddewig Llandudno
Mae map yn dathlu hanes Iddewig Llandudno wedi'i greu gan Nathan Abrams, sy’n Athro mewn Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol Bangor.
Mae'r map yn dathlu presenoldeb Iddewon yn Llandudno o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw. Mae'n cyd-fynd â'r map cynharach o hanes Iddewig Bangor (Walking Jewish History a gyllidwyd gan Gyfrif Cyflymydd Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol).
Cynhyrchwyd y map mewn cydweithrediad â Gareth Roberts o Broject Cerdded a Darganfod Menter Fachwen ac Amgueddfa Llandudno gyda chymorth Cronfa Bangor Prifysgol Bangor. Mae Cronfa Bangor, trwy roddion gan gyn-fyfyrwyr , yn rhoi grantiau sy’n cefnogi myfyrwyr a’r iaith a diwylliant Cymreig.
Mae trigolion lleol yn cael eu hannog i rannu eu hatgofion am Iddewon Llandudno, gan gynnwys yr unigolion a redai’r siopau adnabyddus, Wartski's, Blairman's a Gubbay's Oriental Stores.
"Mae gan Landudno a'r cyffiniau hanes Iddewig cyfoethog," meddai'r Athro Abrams.
"Ond yn anffodus, wrth i'r gymuned ddirywio a diflannu, a'r trawsnewid a fu ar y stryd fawr, does dim llawer o bobl yn gwybod yr hanes. Mae yno o flaen ein llygaid ond er hynny mae dan gêl. Ac nid yn unig y mae'r map yn cofnodi'r hanes mae hefyd yn eich helpu chi i ddod o hyd i’r hanes hwnnw."
Symudodd Iddewon a oedd yn ffoi rhag erledigaeth yn nwyrain Ewrop - ac yn dymuno bywyd gwell ym Mhrydain - i Landudno ar ddiwedd y 19eg ganrif. Wrth i'r gymuned dyfu, agorwyd synagog a siop cigydd kosher hyd yn oed.
Cafwyd mewnlifiad pellach adeg yr Ail Ryfel Byd, yn faciwîs ac yn bobl yn ffoi rhag y Natsïaid.
Fe wnaethant integreiddio'n dda i fywyd lleol, gan ddysgu Cymraeg a chymryd rhan yn yr Eisteddfodau lleol.
Cawsant effaith drawsnewidiol ar y dref a chânt eu cofio hyd heddiw.
Mae taith gerdded ac arddangosfa yn yr arfaeth pan ellir cynnal digwyddiadau o'r fath yn ddiogel.
Mae'r Athro Abrams a Gareth Roberts bellach yn gweithio ar arddangosfa am hanes Iddewig Ynys Môn a ariennir gan y Jewish Historical Society of England.
Mae'r Athro Abrams yn gobeithio y gellir cyflwyno'r fenter archifol hon mewn ardaloedd eraill lle bu Iddewon yn byw yng Ngogledd Cymru, sef Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam. Ond byddai angen cyllid pellach i wneud hynny.
Os hoffai unrhyw un gael copi am ddim o'r mapiau, cysylltwch â'r Athro Abrams. n.abrams@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2020