Dathlu Llenyddiaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor
Mae Llyfrgell Prifysgol Bangor bellach yn gartref i’r casgliad mwyaf o lyfrau’n ymwneud â llenyddiaeth Arthur yng Nghymru a gogledd Lloegr, yn dilyn cytundeb rhwng y Brifysgol a Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir y Fflint, sydd wedi rhoi eu casgliad Arthuraidd i’r Brifysgol.
Mae’r casgliad wedi cael cartref addas, gan fod gan y Brifysgol dros hanner canrif o gyfraniad neilltuol i astudiaeth llenyddiaeth Arthuraidd. Mae gan Dr Raluca Radulescu, sy’n arwain y cyrsiau Arthuraidd yn Ysgol y Saesneg, enw da yn rhyngwladol am ei gwaith yn llunio maes astudiaethau Arthuraidd drwy ei golygyddiaeth o gylchgrawn ysgolheigaidd yr International Arthurian Society a chyhoeddiad llyfryddiaeth flynyddol y Gymdeithas. Mae hi hefyd yn cyfrannu’n rheolaidd at raglenni radio a theledu gan drafod astudiaethau canoloesol, a chafodd ei chyfweld yn ddiweddar ar y pwnc ar radio cenedlaethol ABC yn Awstralia.
Yn ogystal â darparu adnodd gwerthfawr i fyfyrwyr sy’n astudio’r modiwlau gradd poblogaidd ar Arthur, neu’r cwrs gradd MA ar Lenyddiaeth Arthuraidd, yr unig un o’i fath yn y byd, bydd y casgliad hefyd o ddiddordeb i unrhyw un sydd â diddordeb cyffredinol mewn astudiaethau Arthuraidd. Er enghraifft, rhai sydd â diddordeb mewn canfod sut mae’r chwedlau wedi eu hail-ddweud a’u hail-ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd dros y canrifoedd.
Meddai Dr Raluca Radulescu:
“Boed ar gyfer astudiaeth academaidd neu er mwyn adrodd chwedlau, ar ffurf llyfr, ffilm neu gylchgrawn, mae pobol dros y canrifoedd wedi eu swyno gan y traddodiad Arthuraidd. Rydym yn bwriadu defnyddio’r rhodd hwn i greu cynlluniau newydd efo partneriaid lleol a rhyngwladol, a denu mwy o ddiddordeb academaidd mewn llenyddiaeth Arthuraidd i Fangor. Rydym yn bwriadu ymestyn allan i’r gymuned leol hefyd drwy gynnal gweithgareddau megis darllen straeon gyda thema Arthuraidd, a sgyrsiau mewn ysgolion, sy’n cael eu cynllunio ar gyfer mis Mehefin.”
Meddai Sue Hodges: Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd ac Archifau, Prifysgol Bangor:
“Mae hwn yn gasgliad gwych a fydd yn atgyfnerthu ymchwil, dysgu ac addysgu Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor ac yn rhyngwladol, mae’n ychwanegu at ein casgliad presennol. Rydym yn ddiolchgar dros ben i lyfrgelloedd Sir y Fflint amdanynt. Gan weithio’n agos efo Dr Radulescu, byddwn yn rheoli, cadw, hybu a digideiddio rhannau o’r casgliad, fel bod modd iddo fod ar gael i’r cyhoedd a chymunedau yng Nghymru. Mae croeso i’r cyhoedd drefnu i ddod i weld y casgliad a byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i hybu’r casgliad.
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, o Wasanaeth Llyfrgelloedd Sir y Fflint: “Rydym yn falch iawn bod y casgliad unigryw o lenyddiaeth Arthuraidd wedi cael ei ail-leoli i Lyfrgell Prifysgol Bangor. Rheolir a gofalir am y casgliad yn gan Wasanaeth Lyfrgelloedd ac Archifau’r Brifysgol, sydd eisoes â chysylltiadau da gydag ysgolheigion Arthuraidd, a chyda chynlluniau i hybu’r casgliad yn eang. Bydd y casgliad ar gael i unrhyw un sydd am ddarllen neu astudio’r cynnwys. Bydd manylion ynghylch sut i drefnu i weld y casgliad ar wefan Llyfrgelloedd Sir y Fflint ar ôl 16 Ebrill.”
Rhoddwyd y casgliad gwreiddiol i Lyfrgelloedd Sir y Fflint gan E.R.Harries, cyn-lyfrgellydd y Sir ym 1952. Ymhelaethwyd ar y stoc gan Lyfrgelloedd Sir y Fflint a Chlwyd ac mae’r casgliad rŵan yn cwmpasu dros 2,000 o eitemau, gan gyfrannu ychwanegiad sylweddol at gasgliad Bangor, sydd eisoes o ddiddordeb o bwys i ysgolheigion a darllenwyr cyffredinol fel ei gilydd.
Mae casgliad Harries Sir y Fflint hefyd yn cynnwys rhai llyfrau printiedig cynnar prin ac argraffiadau moethus o gyfnod Diwygiad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bydd y cyfan yn cael eu curadu, eu cadw a’u rheoli gan wasanaeth Llyfrgell ac Archif y Brifysgol.
I ddathlu derbyn y rhodd, mae Prifysgol Bangor yn cynnal darlith gyhoeddus ac arddangosfa o lyfrau prin. Cynhelir y ddarlith, ‘Arthur: the King that never left us' yn Narlithfa 2 Prif Adeilad y Brifysgol am 5.00 brynhawn Iau, 16 Ebrill. Mae croeso i bawb i'r ddarlith. I gyd-fynd â’r ddarlith, bydd arddangosfa hefyd yn cael ei gosod yng nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, man sy’n agored i'r cyhoedd. Gellir gweld yr arddangosfa rhwng 13 a 27 Ebrill 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2015