Dathlu ymchwil i’r gymdeithas sifil: pennod newydd
Yr wythnos hon lansiodd Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD, cydfenter rhwng prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe), eu cynllun pum mlynedd ar gyfer ymchwil i’r gymdeithas sifil mewn digwyddiad i randdeiliaid yn y Senedd. Bydd eu hymchwil newydd yn edrych ar anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd, mudo ac amlddiwylliannaeth, yr economi sylfaenol, deinameg newidiol gwaith, a hawliau anifeiliaid a deallusrwydd artiffisial.
Mynychodd dros 70 o bobl Dathlu ymchwil i’r gymdeithas sifil – pennod newydd, gan gynnwys rhanddeiliaid allweddol o’r sectorau cyhoeddus, preifat, polisi a’r trydydd sector. Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Mark Drakeford, AC, Prif Weinidog Cymru a’r Athro Alison Park, Cyfarwyddwr Ymchwil yn y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Mae’r Ganolfan Cymdeithas Sifil newydd yn ganlyniad i £6.3m o gyllid ESRC, rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, a bydd yn ceisio ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf brys sy’n wynebu’r gymdeithas heddiw. Bydd yn datblygu ac yn ymestyn yr ymchwil perthnasol i bolisi o’r rhaglen cymdeithas sifil flaenorol.
Yn y digwyddiad, meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “Mae llwyddiant WISERD yn dyst i’w ddull o gydweithio â phrifysgolion ac elusennau ledled Cymru, Ewrop, a’r byd. Ni fu ffeithiau erioed mor bwysig, a bydd cael canolfan wybodaeth o safon byd sy’n ein helpu ni yn y Llywodraeth i wneud y penderfyniadau cywir, yn ein helpu i adeiladu Cymru well i ni, ac i genedlaethau’r dyfodol.”
Bydd y Ganolfan Cymdeithas Sifil newydd yn cynnwys nifer o brosiectau ymchwil rhyngddisgyblaethol a fydd yn digwydd o dan bedair thema:
- Ffiniau Eithrio ac Ehangu Dinesig
- Polareiddio, Llymder a Diffyg Dinesig
- Gwleidyddiaeth Ddadleuol Elw Dinesig
- Adnoddau Perthnasol, Arloesi Cymdeithasol a Thrwsio Sifil
Roedd y digwyddiad yn cynnig cyfle i’r rhanddeiliaid rwydweithio â’r prif ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiectau newydd, a hefyd i edrych ar arddangosfa o rai o’r canfyddiadau allweddol o’n hymchwil flaenorol i’r gymdeithas sifil.
Ian Rees Jones, Cyfarwyddwr Canolfan y Gymdeithas Sifil: “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cael rhagor o gyllid o raglen hynod gystadleuol. Mae hyn yn dyst i waith caled pob un o ymchwilwyr a staff WISERD, y cymorth parhaus gan y prifysgolion WISERD craidd, a gan ein gwahanol bartneriaid ym maes y gymdeithas sifil a pholisi.
“Bydd yr ymchwil yn ein galluogi i edrych ar y ffyrdd y mae dinasyddiaeth a hawliau cysylltiedig yn fannau o newid ac ymrafael mewn byd sy’n newid yn gyflym. Mae’n gyfle euraid i WISERD dyfu fel canolfan greadigol a chartref i arweinwyr ymchwil rhyngwladol, ac i gyflawni ymchwil ryngddisgyblaethol arloesol yn seiliedig ar ddiwylliant rhyddid meddwl a syniadau.”
Drwy gydol eu hymchwil i’r gymdeithas sifil hyd yma, bu ymchwilwyr WISERD yn ymwneud â datblygu dulliau ac adnoddau er mwyn helpu ymchwilwyr fod yn fwy effeithlon wrth chwilio am ddata, eu dadansoddi a’u rhannu. Dangoswyd WISERD DataPortal, WISERD UnionMaps a Deall Lleoedd Cymru ar stondin rhyngweithiol yn y digwyddiad.
Datblygir WISERD DataPortal ymhellach yn rhan o’r Ganolfan Cymdeithas Sifil dros y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â Labordy Data Addysg WISERD sydd newydd ei sefydlu. Fel yr unig labordy data mewn prifysgol yn y DU, bydd yn crynhoi’r holl ddata gweinyddol ar blant mewn ysgolion ac yn cysylltu hyn â ffynonellau data eraill. Bydd hyn yn galluogi ymchwilwyr addysg i wneud uwch ddadansoddiadau i feysydd fel perfformiad disgyblion ac ysgolion, effaith sefyll TGAU yn gynnar, a phatrymau a rhagfynegyddion gwaharddiadau o ysgolion.
Hefyd cyhoeddwyd enillydd cystadleuaeth ffotograffiaeth gyntaf WISERD yn y digwyddiad. Gofynnwyd: “Beth mae cymdeithas sifil yn ei olygu i chi?” a chynigiodd dros 40 o gystadleuwyr amrywiaeth o safbwyntiau, gan ddangos popeth o weithwyr yn streicio a gwrthdystwyr hinsawdd i gymunedau lleol yn cydweithio i fynd i’r afael â phroblemau byd-eang. Dangoswyd gwaith y tri yn y rownd derfynol a phleidleisiodd yr ymwelwyr dros eu hoff ffotograff. Roedd yr un a enillodd, a oedd â’r teitl ‘People Power’, gan Alexandra Williams, Prifysgol Caerdydd.
Sally Power, Cyfarwyddwr WISERD: “Mae’r digwyddiad hwn, Dathlu Ymchwil i’r Gymdeithas Sifil – Pennod Newydd, yn cydnabod camp wych fy nghydweithwyr, a llwyth o gefnogaeth a chyfranogiad gan ein rhanddeiliaid, yr ydym yn ddiolchgar iawn amdano. Mae ein rhanddeiliaid wedi ein helpu i nodi’r heriau sy’n wynebu’r gymdeithas sifil ac i edrych ar ffyrdd y gallem fynd i’r afael â’r rhain.
“Rydym yn arbennig o ddiolchgar i Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru, am lwyfannu’r digwyddiad ac am siarad yma. Hefyd hoffem ddiolch i Alison Park o’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, nid yn unig am ymuno â ni i ddathlu ein gwaith, ond hefyd am ei chyfraniad i sicrhau bod y Cyngor yn dal i gefnogi gwyddoniaeth gymdeithasol ragorol, annibynnol a mawr ei heffaith.”
Cydnabyddir yn ddiolchgar gefnogaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2020