Datrys sut mae clefyd cymhleth yn bygwth ein coed derw eiconig
Y dulliau gwyddonol diweddaraf yn datgelu achos aml-facteriol gwaedu boncyff mewn dirywiad aciwt coed derw a dulliau newydd o ddadansoddi achosion clefydau cymhleth planhigion
Mae gwaith tîm rhwng Forest Research, Prifysgol Bangor ac eraill wedi llwyddo i olrhain achosion symptomau gwaedu boncyff o'r bygythiad newydd hwn i goed derw brodorol.
O 2008 ymlaen, roedd Forest Research, rhan o'r Comisiwn Coedwigaeth, yn cael adroddiadau am glefyd difrifol ymysg coed derw brodorol mewn sawl rhan o'r DU, yn arbennig East Anglia, Canolbarth Lloegr, Gororau Cymru a de-ddwyrain Cymru. Mae'r afiechyd cymhleth hwn, sef dirywiad derw aciwt (AOD), yn ymddangos ar y boncyff fel clytiau o hylif du yn diferu o doriadau yn y rhisgl, sy'n gorchuddio meinwe sydd wedi pydru. Mewn achosion difrifol, gall y pydredd amgylchynu'r boncyff bron yn gyfan gwbl, gan rwystro'r coed rhag cael dŵr a maethynnau sy'n hanfodol i'w tyfiant. Mae'r coed yn mynd yn wan a gallent farw. Mae'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn The ISME Journal (doi: 10.1038 / ismej.2017.170), yn dod i'r casgliad bod cymysgedd o wahanol rywogaethau bacteriol yn achosi'r gwaedu boncyff mewn dirywiad derw aciwt. Mae'r awduron yn esbonio bod natur gymhleth yr afiechyd yn golygu bod dod o hyd i'r achos yn heriol. Defnyddiwyd nifer o ddulliau gwyddonol i ddarganfod achos y diferu a'r pydru sy'n nodweddiadol o'r clefyd, gan ddarparu dull newydd o adnabod ac astudio clefydau planhigion cymhleth.
Gan fod achosion y symptomau o ddiferu a phydru mewn dirywiad derw aciwt wedi eu canfod erbyn hyn, gall gwyddonwyr bellach weithio tuag at ganfod ffyrdd o atal y clefyd. Bellach, gellir defnyddio'r dull newydd hwn o adnabod clefydau cymhleth ymysg planhigion mewn cyd-destunau eraill hefyd.
Meddai cyfarwyddwr y project yn Forest Research a'r prif awdur Dr Sandra Denman:
"Dyma'r tro cyntaf i achos pydredd boncyff mewn dirywiad derw aciwt gael ei ddangos yn y maes ac mewn profion labordy gyda chadarnhad o'r canlyniadau ar lefel foleciwlaidd. Er bod rhagor o waith i'w wneud o hyd, rydym wedi darparu templed gwyddonol ar gyfer dadansoddi achosion clefydau cymhleth sy'n ymwneud â micro-organebau a phryfed. Heb waith tîm ni fyddem wedi gallu cyflawni ein nodau; rydym yn awr yn obeithiol y byddwn yn gallu datblygu ffyrdd o ddiogelu ein coed derw".
Meddai Dr James McDonald, uwch ddarlithydd ac arweinydd y grŵp ymchwil i ddirywiad derw aciwt ym Mhrifysgol Bangor:
"Mae dirywiad derw aciwt yn fygythiad mawr i goed derw Prydain ac mae darganfod beth sy'n achosi i'r boncyff bydru yn yr afiechyd cymhleth hwn wedi bod yn dasg heriol iawn. Mae defnyddio cyfuniad o wahanol ddulliau gwyddonol wedi ein galluogi i gael darlun gwell o achosion gwaedu boncyff mewn dirywiad aciwt coed derw a gobeithio y bydd hyn yn arwain at well dealltwriaeth o glefydau coed eraill sy'n peri risg i'r dirwedd yn fyd-eang.”
Meddai Dr James Doonan, ymchwilydd ôl-ddoethurol yn Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol a chydawdur y papur:
“Mae dilyniannu DNA yn ein galluogi i ddeall natur bacteria, p'un a ydynt yn elfennau niweidiol neu ddiniwed yn y clefyd, neu'n gallu dinistrio meinwe coed derw. Gan ddefnyddio'r technolegau newydd hyn, aethom gam ymhellach a recordio meinwe coeden yn cael ei dinistrio trwy ddadansoddi gweithgaredd y bacteria hyn mewn meinwe sy'n pydru, gan ategu'r profion ynysu a heintio trwy nodi'r asiantau bacteriol allweddol.”
Mae'r awduron yn ddiolchgar am gefnogaeth gan Woodland Heritage, Rufford Foundation, the Monument Trust, yr Ymddiriedolaeth Monument, the JPG fund, HPC Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth a DEFRA (TH0108) yn y gwaith hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2017