Dau le rownd derfynol i Fangor yng Ngwobrau Cynaliadwyedd ac Adnoddau’r CIWM
Mae Prifysgol Bangor ymysg y goreuon eleni gyda nid un, ond dau le yn rownd derfynol Gwobrau Cynaliadwyedd ac Adnoddau mawreddog y Chartered Institution of Wastes Management.
Wrth siarad ar ran y timau yn y rownd derfynol, dywedodd Rebecca Colley-Jones, arbenigydd Economi Gylchol ac Adnoddau yn y Lab Cynaliadwyedd:
“Rydym yn hynod o gynhyrfus i fod yn derfynwyr ar gyfer ein hymgyrchoedd #CaruNeuaddau a #CaruEichDilladBangor. Rydym yn falch o drwytho etifeddiaeth o ailgylchu ac ailddefnyddio yn ein myfyrwyr, ein staff a chymdeithas ehangach Bangor. Mae cyrraedd rownd derfynol y gwobrau hyn yn cydnabod ein hymrwymiad ehangach i gyrraedd nod Y Brifysgol Gynaliadwy ac i ysbrydoli eraill i fanteisio ar gynaliadwyedd a lles.”
Beirniadwyd gan rai o arbenigwyr uchaf eu parch yn y sector, dyfarnir y gwobrau hir sefydlog hyn am gyrhaeddiad eithriadol yn niwydiannau cynaliadwyedd, adnoddau a gwastraff. Mae nhw’n arddangos prosiectau, dyfeisiadau ac ymdrechion rheoli adnoddau o’r 12 mis sydd wedi mynd heibio, a chânt eu cystadlu a’u noddi gan fudiadau ac arweinwyr meddwl ar draws y DU sy’n frwdfrydig am ragoriaeth.
Dyma’r flwyddyn gyntaf i Brifysgol Bangor gystadlu yn y gwobrau, a buodd yn llwyddiannus mewn cyrraedd rownd derfynol y ddau gategori a gystadlwyd – Prosiect Ailddefnydd ac Atal Gwastraff Gorau ar gyfer yr ymgyrch #CaruEichDilladBangor, a Phrosiect Adnoddau Gorau gan Reolaeth Cyfleusterau ar gyfer yr ymgyrch #CaruNeuaddau.
Derbyniodd y CIWM record newydd o geisiadau eleni. Dywedodd Tina Benfield, cymrawd o’r CIWM a’u rheolwr technegol:
“Nid yn unig y nifer mwyaf o geisiadau erioed, ond y rhai mwyaf sylweddol hefyd. Mae’n destament gwych i’r gwaith ardderchog sy’n mynd ymlaen ar draws y diwydiant, ac ohonynt y gallwn ni i gyd ddysgu.”
Bangor yw’r unig brifysgol i gyrraedd y rownd derfynol, a bydd yn cystadlu yn erbyn cwmnïoedd enwog cenedlaethol a rhyngwladol fel Aldi, Jaguar Landrover a Sŵ Llundain & Whipsnade, ymgyngoriaethau amgylcheddol fel Ramboll Environ, mudiadau sector cyhoeddus mawr gan gynnwys Guy’s a St Thomas’ NHS Foundation Trust, a sawl cyngor sir a chyngor tref. Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar Dachwedd 3ydd yng ngwesty Grosevenor Square Marriott yn Llundain.
Darllenwch y rhestr lawn o derfynwyr yma.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2016