Dau yn cynrychioli Bangor yng ngystadleuaeth Entrepreneuriaeth Santander
Mae gan Prifysgol Bangor gynrychiolaeth dda yn rownd gynderfynol Gwobrau Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander 2018, sydd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Strathclyde ar 26 Mehefin.
Wedi eu dethol drwy gystadleuaeth ymhlith graddedigion a myfyrwyr sydd eto i raddio o’r Brifysgol, mae Tim Hunt a Joe Perkins ymhlith 20 entrepreneur sydd eisoes wedi ennill cymal arall yn y gystadleuaeth. Bydd y ddau yn ceisio ‘gwerthu’ eu syniad busnes er mwyn ceisio lle yn y ffeinal rhanbarthol.
Ddwy flynedd ers graddio mewn Gwyddor Gyfrifiadurol ac ennill cystadleuaeth genedlaethol Student Ideas JISC am ei egin syniad busnes, mae Coursematch yn blatfform sydd wedi ei ddatblygu gan Joe ar gyfer teclynnau symudol. Nod Coursematch yw helpu darpar fyfyrwyr i ddewis cwrs gradd i’w ddilyn yn ogystal â’u helpu i gysylltu gyda myfyrwyr cyffelyb ar draws y wlad. Dewis y cwrs anghywir neu beidio â chreu grŵp cymdeithasol i chi eich hun ydi dau o’r prif resymau sy’n peri i fyfyrwyr i adael eu cwrs yn gynnar. Nod Coursematch yw i fynd i’r afael â’r ddwy broblem yma. Hyd yn hyn, mae Coursematch wedi ei lawrlwytho gan 14,000 o fyfyrwyr yn genedlaethol, ac mae’r cwmni bellach yn gweithio tuag at ail-gyflwyno pecyn gyda llwyth o nodweddion newydd.
Meddai Joe:
“Rwy’n gyffro i gyd o ganlyniad i gael cynrychioli Prifysgol Bangor yn rownd gynderfynol Cystadleuaeth Prifysgolion Santander. Mae Coursematch wedi datblygu ers i mi raddio yn haf 2016 ac rydym wedi gwella’r cynnyrch yn sylweddol, wedi sicrhau nawdd gan rai o fuddsoddwyr ‘angel’ gorau’r wlad ac wedi dechrau magu perthnasau masnachol gyda phrifysgolion a brandiau.
Hoffwn ddiolch i staff yr Ysgol Cyfrifiadureg am eu holl gyfraniad wrth i mi ennill fy ngradd, ac yn benodol i Dave Perkins - a chwaraeodd rôl hanfodol wrth fy nghefnogi drwy fy astudiaethau blwyddyn olaf.”
Mae Joe yn gyn-ddisgybl Queen Elizabeth’s School, Wimborne, Dorset, ac roedd yn byw yn Wimborne Minster ar arfordir deheuol Lloegr, (ger Bournemouth).
Meddai Dr Iestyn Pierce, Pennaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig ac un o dîm o ddarlithwyr ar draws y Brifysgol sydd yn annog entrepreneuriaeth:
“Mae’n wych clywed bod Joe Perkins wedi llwyddo wrth gyrraedd y rownd nesaf o’r gystadleuaeth uchel ei bri hon. Dyma brawf pellach o’r modd y mae’r Brifysgol yn datblygu entrepreneuriaeth ymysg y myfyrwyr. Mae fy niolch i’r holl staff yn yr Ysgol, yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd sydd wedi rhoi cymorth i Joe a’i gyd-fyfyrwyr, er mwyn iddynt ddatblygu eu syniadau ymhellach.”
Ei gefndir ym maes gweithgareddau awyr agored oedd ysbrydoliaeth ar gyfer syniad Tim Hunt, sydd ym mlwyddyn olaf ei radd Dylunio Cynnyrch. Ag yntau’n gaiaciwr brwd, mae Tim wedi cychwyn padlfyrddio (stand up paddle-boarding – SUP) ac wedi sylwi bod bwlch yn y farchnad o ran y byrddau sydd ar gael. Mae Bwrdd SUP Tim wedi’i ddylunio i gario hyd at 50 kilo o offer - a ddylai fod yn ddigon ar gyfer taith wythnos o hyd. Mae’r dyluniad yn cynnwys cafn yn y bwrdd er mwyn cario’r offer heb effeithio ar gytbwysedd y bwrdd.
Dewisodd Tim, sydd yn 29 ac yn byw yng Nghwm y Glo, astudio Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor gan y byddai’n rhoi’r cyfle iddo ddatblygu offer chwaraeon awyr agored.
Meddai Tim: “Mae’r cwrs wedi fy narparu efo’r wybodaeth am yr elfennau gwahanol o ddylunio a sut i reoli datblygiad project, tra bod lleoliad y Brifysgol heb ei ail ar gyfer cael mynediad at y mynyddoedd ac arfordir unigryw Ynys Môn.”
Mae Tim yn gobeithio datblygu ei ddyluniad, ac wedi gosod yr enw Siwrnai arno (am resymau amlwg), a bydd yn chwilio am gyllid er mwyn creu’r mowld ar gyfer cynhyrchu’r bwrdd.
Meddai Mr Aled Williams, Darlithydd ar y cwrs gradd BSc Dylunio Cynnyrch yn y Brifysgol:
“Rydym wedi ein cyffroi wrth weld syniadau arloesol Tim yn tyfu i fod yn gynnyrch sydd yn barod ar gyfer y farchnad. Mae’r cwrs yn rhoi cyfleoedd i weithio’n agos gyda diwydiant ac mae gweld rhywun fel Tim yn datblygu’r broses a’i sgiliau dylunio wrth gael cynnyrch i farchnad newydd, yn anogaeth dda i fyfyrwyr dylunio’r dyfodol. Mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i fyfyrwyr arddangos eu gweledigaeth a chyflwyno’u galluoedd i fyd masnachol.”
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2018