Daw hydref a’i thrysorau yn ei sgîl
Mae bonyn coeden yng Nghoedwig Gardd Botaneg Treborth, sy’n rhan o Brifysgol Bangor, wedi blaguro’n flith o ffwng mêl.
Mae’r bonyn hen dderwen wedi marw yn sefyll wrth ochr llwybr arfordir Gogledd Cymru, ac wedi dod yn gartref i gytref o ffwng mêl.
Nid yw’r ffwng mêl yn rhywogaeth brin, ond mae’r esiampl hon yn un mawr sy’n ymestyn o’r ddaear heibio uchder pen, ac efo lliwiau hyfryd ar ei hyd.
Aeth Dr Mike Hale, darlithydd yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth draw i’w gweld, gan ei fod yn arbenigo mewn ffyngau ac mewn heintiau coed.
Fel yr esboniodd Dr Hale:
“Mae’n debyg bod hyn yn rhan o gytref ffwng llawer mwy o ran maint- gan fod y ffwng yn lledaenu ar hyd ‘creuau’ o dan ddaear ac yn cytreddu coed cyfagos ac yn rhychwantu’r gofod drwy cytreddu pren sydd wedi marw.
Oherwydd y modd y mae’n ymestyn dros ardal fawr ac y gall niweidio coed byw, nid yw garddwyr yn hoff iawn o’r ffwng mêl. Wrth gwrs rydym yn cysylltu ffyngau efo’r adeg yma o’r flwyddyn, ac mae’r ffwng mêl yn ffynnu mewn mannau gwlyb, sydd i’w gael mewn rhannau o goedwig Treborth. Mae arogl cryf i’r ffwng, ac mae’n gwasgaru sborau, sydd yn dod o’r ffwng fel llwch mân. Mae madarch y ffwng yn dechrau pydru ar un och sy’n rhoi newid lliwiau ar draws y cyfan.”
Mae’r Diwrnod Ffwng DU gyntaf i’w drefnu o dan drefniant y British Mycological Society yn digwydd ar Ddydd Sul 13 Hydref, ac i nodi’r digwyddiad, bydd Gardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor yn nodi’r achlysur drwy gynnal diwrnod Diddordeb o Ffyngau . Bydd dau helfa ffwng, a fydd yn addas i’r holl deulu yn gyfle i ddarganfod teyrnas gudd coetir hynafol i chwilio am y ffwng hudolus a cyfriniol! Mae’r helfa gyntaf yn digwydd rhwng 10.00-12.45 a’r ail am 13.45-16.00.
Cliciwch ar y linc ar gyfer manylion y diwrnod.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2013