Deall ein Moroedd
Mae Ysgolion Gwyddorau Eigion, Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg Prifysgol Bangor, ar y cyd â chwmni partner 'Tidal Lagoon Power' yn chwilio am fyfyriwr cyfrifiadureg i'w helpu i adeiladu cerbyd annibynnol a fydd yn ateb cwestiynau sydd wedi bod yn boen i ecolegwyr a gwyddonwyr pysgodfeydd ers blynyddoedd - sut mae pysgod yn nofio, ac i ble? Mae'r project newydd a ddatblygir gan SEACAMS, Prifysgol Bangor, ac a gyllidir gan KESS 2, yn bwriadu olrhain pysgod bach y môr i ddeall i ble mae pysgod yn nofio, mewn ffordd a ddefnyddiwyd gyda siarcod mawr yn unig yn y gorffennol.
Mae'r project wedi tarddu o ddiddordeb y 'Tidal Lagoon Power' mewn clustnodi safleoedd penodol o amgylch y byd i ddefnyddio grym llanw i gynhyrchu trydan.
Er mwyn deall ecoleg yr ardal a chael cydsyniad ar gyfer unrhyw ddatblygiad, mae'n rhaid cynnal asesiad effaith amgylcheddol. Rhan o hyn fyddai deall patrymau ymfudol eog, brithyll y môr a rhywogaethau dŵr arfordirol eraill.
Gyda'r dechnoleg a ddefnyddir ar hyn o bryd, mae tagiau'n cael eu gosod ar bysgod sy'n rhyddhau signal a anfonir at dderbynyddion acwstig sydd wedi eu hangori ar wely'r môr er mwyn ceisio olrhain symudiadau pysgod wrth iddynt symud drwy'r ardal. Mae'r dull hwn yn ddrud ac yn heriol yn logistaidd, gan roi ciplun yn unig ar symudiadau gwirioneddol y pysgod.
Bu i 'Tidal Lagoon Power', sydd â diddordeb mewn edrych ar ddulliau ymchwil amgen i ymdrin â'r broblem hon, gydweithio gyda thîm SEACAMS ym Mhrifysgol Bangor, i edrych ar y defnydd o gerbydau tanddwr annibynnol (Autonomous Underwater Vehicles - AUVs) i olrhain pysgod. “Rydym ni'n gweld hyn fel y dyfodol mewn olrhain pysgod, ac os allwn ni ddatblygu ateb nad ydyw'n costio llawer, mae potensial anferthol i wyddoniaeth y tu hwnt i'n projectau ni a photensial gwirioneddol ar gyfer masnacheiddio. Rydym ni'n awyddus iawn datblygu, profi a defnyddio'r dechnoleg hon mor fuan ag sy'n bosib, a chyda'r tîm gwych a roddwyd at ei gilydd gan SEACAMS a Phrifysgol Bangor, mae hyn yn bendant yn bosibl.”
SMae siarcod mawr wedi cael eu tracio'n llwyddiannus gan ddefnyddio'r math yma o dechnoleg, a bydd y project hwn yn gobeithio edrych a ellir defnyddio hyn gyda physgod ymfudol bychain megis brithyll y môr a rhywogaethau arfordirol eraill.
Bydd yr AUV yn tracio gan ddefnyddio acwsteg, ac ar ôl iddo gloi ar signal y tag y mae'r pysgod yn ei gludo, bydd yn symud y tu ôl i'r pysgod gan gofnodi ei safle wrth iddo fynd ar ei hynt, gan roi darlun llawnach o sut mae'r pysgod yn defnyddio ardal. Mae'r gwyddonwyr yn gobeithio y bydd y cerbyd hwn yn gallu tracio pysgod am nifer o ddiwrnodau.
Mae deall sut mae pysgod yn symud o gwmpas yn ein moroedd wedi bod yn fwlch mewn gwybodaeth sydd wedi bod yn her i ecolegwyr am flynyddoedd; Dywedodd Jenny Whitmore, Ymchwilydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion:
“Mae gan y project hwn botensial mawr i ateb cwestiynau'n gysylltiedig â chadwraeth rhywogaethau gwarchodedig, stoc ac asesiadau o gynefinoedd, cynllunio morol ac ecoleg pysgodfeydd; gobeithiwn y gellir defnyddio'r dechnoleg yr ydym yn ei datblygu gydag amrywiaeth o rywogaethau mewn amryw o wahanol amgylchfeydd.”
Dywedodd Dr Iestyn Pierce o'r Ysgol Peirianneg Electronig:
“Mae'n gyffrous iawn meddwl y bydd un o'n myfyrwyr yn llenwi'r bwlch gwybodaeth sy'n bodoli yn y maes hwn, ac y gallem baratoi'r ffordd i gael mwy o ddealltwriaeth o fyd cyfrinachol pysgod.”
Ychwanegodd Dr Bill Teahan o'r Ysgol Cyfrifiadureg:
"Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y project cyffrous hwn yn ysgrifennu meddalwedd arloesol ac yn gweithio gyda gwyddonwyr o wahanol ddisgyblaethau i gyflwyno'r dechnoleg".
Mae cydweithwyr academaidd eraill, ym Mhrydain a thramor, mewn trafodaeth â'r tîm, sy'n bwriadu dod ag arbenigedd at ei gilydd ar bob elfen o'r project cyffrous hwn. Mae RS Aqua, partner masnachol sy'n arbenigo mewn offer môr a chyfarpar acwstig, yn darparu offer a chyngor technegol wrth i'r project symud yn ei flaen.
Mae Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau uwch i Gymru gyfan sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe’i cyllidir yn rhannol gan raglen Cydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
I gael mwy o wybodaeth am KESS 2: http://kess2.ac.uk
Cewch fanylion llawn am yr efrydiaeth MRes blwyddyn a gyllidir gan KESS 2 yma: http://kess2.ac.uk/buk2129/
I gael rhagor o fanylion e-bostiwch KESS2@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 382162.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2017