Dechrau da i Barc Gwyddoniaeth Menai
Mae tenantiaid cyntaf y Parc Gwyddoniaeth gwerth £20m ar Ynys Môn wedi cael eu henwi, gydag amrediad eang o fusnesau a phrosiectau sy'n amrywio o fusnesau newydd i Fusnesau Bach a Chanolig mawr, bob un ohonynt yn awyddus i arloesi a thyfu.
Ar hyn o bryd mae 11 o gwmnïau’n barod i symud i mewn i Barc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc), sef is-gwmni sydd o dan berchnogaeth lwyr Prifysgol Bangor, pan fydd y Parc yn agor ei ddrysau yn gynnar yn 2018.
Mae M-SParc yn brosiect a ariannwyd yn rhannol gan Gyllid Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Ei nod yw darparu safle o ansawdd uchel i gwmnïau yn y sector gwyddoniaeth a thechnoleg a chynnig pecynnau cymorth unigryw i bob cwmni er mwyn eu helpu i dyfu. Y targed deiliadaeth oedd gan M-SParc ar gyfer y flwyddyn gyntaf oedd 15%. Ond, oherwydd bod gymaint mwy o alw na’r disgwyl wedi bod am le yn y Parc, rhagwelir y bydd dros draean o'r adeiladau wedi’u gosod pan fydd y Parc yn agor.
Mae 11 o gwmnïau, sy'n amrywio o fusnesau newydd i gwmnïau mawr sydd wedi hen ennill eu plwyf yn y sectorau carbon isel, TGCh a gweithgynhyrchu uwch, wrthi’n gwneud trefniadau i fod yn denantiaid cyntaf y Parc. Mae llawer o'r cwmnïau hefyd yn gysylltiedig â gweithgareddau Ymchwil a Datblygu Prifysgol Bangor neu’n cynnig lleoliadau gwaith ac yn cael budd o'r cyswllt hwnnw â'r Brifysgol.
Mae hyn yn newyddion cyffrous iawn i M-SParc ac i'r Brifysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr, Ieuan Wyn Jones: “Roeddem wedi pennu targedau uchelgeisiol ond realistig o ran nifer y tenantiaid a fyddai’n dod i mewn ar y diwrnod cyntaf, ond mae'n braf iawn gweld ein bod wedi rhagori cryn dipyn ar y targedau hynny. Ein nod yw helpu cwmnïau i dyfu ac roedd angen i ni wneud yn siŵr bod digon o le iddyn nhw wneud hynny yn yr adeilad. Mae'r galw wedi bod yno erioed ond wrth i'r diddordeb yn M-SParc dyfu, roedd y galw hefyd yn cynyddu. Mae’n galonogol iawn bod llawer o'r cwmnïau yn rhai sy'n lleol i'r rhanbarth, ac mae gennym hefyd rai buddsoddiadau o'r tu allan. Braf hefyd yw gallu helpu cwmnïau newydd sbon mewn amgylchedd cefnogol lle mae Cymorth Busnes yn elfen hanfodol o'r hyn rydym yn ei gynnig.”
Ymysg y cwmnïau newydd mae Ambionics, cwmni o Borthaethwy sy'n datblygu technoleg a fydd yn newid bywydau drwy greu breichiau prosthetig i blant. Meddai Ben Ryan, sefydlydd Ambionics: “Mae cael lle tebyg i M-SParc yn y rhanbarth yn wirioneddol newid y ffordd y mae cwmni'r un fath ag Ambionics yn gallu gweithredu. Mae'r cymorth busnes rydw i wedi'i gael fel tenant rhithiol wedi bod yn amhrisiadwy, ac rydw i’n ysu am gael symud i mewn a dechrau rhwydweithio â phobl eraill o'r un feddwl â mi.”
Mae'r cwmnïau eraill yn cynnwys: Geosho, sef cwmni datblygu meddalwedd mapio tirwedd symudol sydd wedi’i leoli yng Nghaernarfon; Papertrail o Lanfairfechan sy'n datblygu systemau trywydd archwilio electronig sy'n lleihau'r angen am gofnodion papur ac sy’n cyflymu prosesau mewnol; Diagnostig, cwmni a ddechreuodd ym Mhrifysgol Bangor sy’n datblygu dull newydd chwyldroadol o brofi am TB buchol a dynol; a HET Creadigol, cwmni cydweithredol newydd o Ynys Môn sy’n cynnig gwasanaeth marchnata, datblygu apiau a Dylunio Gwefannau.
Yn allweddol, mae yma hefyd gwmnïau o'r tu allan i'r rhanbarth sy’n cynnig mewnfuddsoddiad y mae angen taer amdano yn yr ardal. Mae FarmLab Diagnostic, cwmni sydd wedi'i leoli yng Ngweriniaeth Iwerddon ac sy’n darparu gwasanaethau profi diagnostig gan ddefnyddio technegau diagnostig modern, hefyd yn gobeithio sicrhau lle ar gyfer labordy yn M-SParc.
Y tenant mwyaf fydd Loyalty Logistix, cwmni sydd wedi’i leoli ym Mangor ar hyn o bryd ac sy’n cyflogi dros 50 aelod o staff er mwyn datblygu gwasanaethau gwybodaeth data a chadw cwsmeriaid ar gyfer y diwydiant ceir.
Meddai Bobby Williams, Prif Weithredwr Loyalty Logistix: “Mae ein gwaith yn ymwneud â thîm ymroddedig o ddatblygwyr sy’n sicrhau eu bod ar flaen y gad bob amser yn y maes technolegol hwn ac yn cynnal sylfaen gwsmeriaid fyd-eang ar yr un pryd. Mae M-SParc yn lleoliad delfrydol i greu’r argraff iawn o’n cwmni, gan ei fod yn adeilad mor drawiadol. Mae ei ddyluniad hyblyg hefyd yn golygu y gallwn ehangu'r cwmni heb orfod ail-leoli'r busnes, sy'n fantais oherwydd bod hyn yn helpu i gadw staff. Graddedigion o Brifysgol Bangor ydi llawer o’n gweithwyr ac maen nhw’n hoffi'r syniad eu bod yn gallu gweithio mewn ardal gyfarwydd y maen nhw wedi mwynhau astudio ynddi.
Mae’n wych o beth hefyd bod Gogledd Cymru yn gallu bod yn ganolbwynt pwysig i fusnes, a bydd y bwrlwm o weithgarwch a fydd yn llenwi’r adeilad o'r munud y bydd rhywun yn cerdded i mewn yn rhoi darlun gwych o'r hyn sydd gennym i'w gynnig fel rhanbarth.”
Mae M-SParc yn dod â budd ychwanegol i'r economi ranbarthol oherwydd bod unedau mwy ar gael i denantiaid preswyl, sy’n golygu eu bod yn gallu uwchraddio ar y safle heb orfod symud i rywle arall. Yn ei dro, mae hyn yn rhyddhau lle ar gyfer busnesau yn nyddiau cynnar eu cylch busnes. Mae'r 'cylch arloesi’ yn bwysig, er mwyn annog a denu busnesau newydd i'r rhanbarth, gan ddarparu cyfleoedd gwaith o ansawdd uchel i bobl ac arallgyfeirio'r economi.
Meddai Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes: “Mae'r parc gwyddoniaeth newydd eisoes yn cynnig cyfle gwych i gwmnïau a phobl leol sefydlu eu hunain yn yr ardal ac elwa o'r arbenigedd o safon fyd-eang sydd ar gael yn y Brifysgol. Rydw i’n falch dros ben o'r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma, ac yn edrych ymlaen at weld y fenter yn mynd o nerth i nerth wrth iddi greu cyfleoedd a swyddi newydd yn y rhanbarth.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan M-SParc (www.m-sparc.com) neu anfonwch e-bost i post@m-sparc.com.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017