Dechrau gyrfa gyda'r BBC yn gwireddu breuddwyd Jack
Mae un o raddedigion Prifysgol Bangor sydd wedi ennill lle ar gynllun hyfforddiant cynhyrchu'r BBC yn ei ddisgrifio fel y ‘dechrau perffaith i’w yrfa’.
Astudiodd Jack Green, sydd yn wreiddiol o Fanceinion, BA mewn Astudiaethau Creadigol ym Mangor ac yna aeth ymlaen i astudio MA mewn Ymarfer y Cyfryngau wrth weithio’n rhan-amser i’r orsaf radio lleol, Heart FM.
Roedd Jack ymysg 4,000 o bobl a geisiodd am le ar gynllun hyfforddiant y BBC. Aeth drwy broses cyfweliad llym a oedd yn cynnwys asesiad grŵp a chyfweliad gyda phanel, ble bu’n rhaid iddo feddwl am raglen deledu newydd i gystadlu gyda’r X factor a’i gyflwyno i’r panel.
Meddai Jack, “Mi roedd o’n teimlo ychydig fel fy mod i’n wynebu panel o feirniaid yn y cyfweliad, ond diolch byth aeth y cyflwyniad yn dda iawn a chefais le ar fel cynhyrchydd dan hyfforddiant. Rwy’n un o ddeuddeg sydd wedi cael eu dewis i’r cynllun 18-mis a byddaf yn treulio pedwar mis ar y tro mewn amryw o adrannau yn y BBC, yn dysgu am bob agwedd o gynhyrchu ar gyfer teledu, radio ac ar-lein.
“Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar raglen celfyddydau BBC Radio 3 “Night Waves” ac rwy’n ei fwynhau’n fawr iawn. Yn ogystal â gweld sut mae’r rhaglen yn cael ei roi at ei gilydd, rwy’n trefnu digwyddiad ar gyfer y BBC Radio 3 Free Thinking Festival yn y Sage yn Gateshead rhwng y 5ed a’r 7fed o Dachwedd, o’r enw ‘Speed Dating with a Thinker’ ble caiff y cyhoedd gyflwyno syniadau radical i’r gynulleidfa.
Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, cyflwynodd Jack sioe am dair blynedd ar yr orsaf radio i fyfyrwyr Storm FM. Drwy ei rôl gyda Storm, cafodd swydd gyda Heart FM gan ddiweddaru’n gweithio fel un o wynebau’r orsaf, ble bu’n mynychu digwyddiadau elusennol a chyfarfod y cyhoedd.
Er i Jack freuddwydio erioed am fod yn awdur, daeth i wybod mwy am yrfaoedd yn y cyfryngau drwy’r cwrs Astudiaethau Creadigol ym Mangor.
Meddai Jack, “Roedd rhai o fy narlithwyr ym Mangor yn hynod o gefnogol ac maent yn sicr wedi helpu i lunio fy ngyrfa. Doeddwn i ddim wedi ystyried gweithio yn y cyfryngau nes i un o fy narlithwyr ei awgrymu, ac wedi i mi astudio modiwl Cyflwyniad i Gynhyrchu’r Cyfryngau sylweddolais mai cynhyrchu oedd y swydd i mi.
“Y bwriad ydy mod i’n gorffen y Cynllun Hyfforddiant Cynhyrchu yn gynhyrchydd gyda phrofiad o weithio ar amryw o raglenni a llwyfannau. Rwy’n dysgu cymaint bob dydd ac mae’n fraint cael gweithio ochr yn ochr â phobl brofiadol sydd y gorau yn eu maes.”

Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2010