Dechreuwch gwrs Meistr y mis Ionawr yma
Wnaethoch chi ddim llwyddo i gael eich cais i mewn ar gyfer mis Medi? Beth bynnag, mae Prifysgol Bangor yn cynnig i fyfyrwyr ddechrau yn Ionawr 2015 ar rai rhaglenni Meistr.
Gwahoddir ceisiadau'n awr i ddechrau ar gyrsiau ôl-radd mewn Busnes a'r Gyfraith yn Ionawr 2015, gyda nifer o gyrsiau yng Nghanolfan Llundain Ysgol Busnes Bangor hefyd yn cynnig dyddiad dechrau yn Ionawr.
"Fe wnaethom gyflwyno mewnlif yn Ionawr y llynedd i rai o'n cyrsiau Meistr mwyaf poblogaidd oherwydd bod galw amlwg am hynny ymysg ymgeiswyr sydd eisiau mwy o hyblygrwydd o ran trefnu eu hastudiaethau ôl-radd," meddai'r Athro John Thornton, Pennaeth Ysgol Busnes Bangor. "Mae'r ymateb gan ymgeiswyr wedi bod yn galonogol iawn ac rydym yn disgwyl i'r mynediad yn Ionawr ddod yn gynyddol boblogaidd. Mae'n ymddangos ei fod o fudd arbennig i'r ymgeiswyr hynny sydd wedi gorfod mynd drwy brosesau cymhleth i wneud cais am fisa, neu a oedd angen cadarnhau trefniadau ariannol neu drefniadau eraill cyn ymrwymo i astudio ôl-radd."
Meddai'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith ym Mangor.
"Mae dechrau yn Ionawr yn siwtio myfyrwyr y mae'r flwyddyn academaidd yn eu gwlad enedigol yn gorffen ar ddiwedd blwyddyn; felly does dim rhaid iddynt ddisgwyl am 9 mis tan y mis Medi canlynol i gofrestru ar LLM yn Ysgol y Gyfraith Bangor. Un o'r pethau braf ynghylch cyrraedd Cymru yn y Flwyddyn Newydd yw bod myfyrwyr tramor yn cyrraedd wrth i'r dyddiau ddechrau ymestyn. Erbyn yr haf nid yw'n tywyllu go iawn tan tua 11pm; mae llawer o fyfyrwyr yn gweld hynny'n rhyfeddol ac yn eu hysgogi i astudio."
Bydd yr holl ymgeiswyr rhyngwladol llwyddiannus i gampws Bangor yn cael eu hystyried yn awtomatig am ysgoloriaeth gwerth o leiaf £2,500. Bydd ymgeiswyr rhyngwladol cymwys yn cael eu gwahodd hefyd i wneud cais am ysgoloriaethau wedi'u cyllido'n llawn.
Bydd yr holl ymgeiswyr i Ganolfan Llundain yn cael eu hystyried yn awtomatig am fwrsariaeth gwerth £2,000 a'u hannog i wneud cais am ysgoloriaeth Aur neu Blatinwm, gwerth hyd at £10,000.
Bydd y rhaglenni hyn (yn cynnwys y rhai yng Nghanolfan Llundain) yn dechrau ddydd Llun 26 Ionawr 2015. Rhaglenni llawn-amser yw'r rhain yn para am 12 mis (Ionawr-Ionawr). Gellir gwneud cais yn awr a bydd rhaid i ymgeiswyr rhyngwladol gyflwyno ceisiadau erbyn dydd Llun 15 Rhagfyr 2014 ac ymgeiswyr o'r DU/UE erbyn dydd Llun 19 Ionawr 2015.
I weld rhestr lawn o'r cyrsiau sy'n dechrau yn Ionawr, ewch i http://www.bangor.ac.uk/courses/postgrad/postgrad_jan_intake.php.en
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2014