Defnyddio cyfoeth natur i leihau tlodi
Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn arwain project £2 filiwn i weld a all cynlluniau rhyngwladol, sy'n talu i bobl mewn gwledydd incwm isel warchod cynefinoedd o bwysigrwydd byd-eang, leihau tlodi.
Meddai Dr Julia Jones, arweinydd y project ac uwch ddarlithydd yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor: "Pan fyddwch yn prynu tocyn hedfan efallai y byddwch yn cael cyfle i wneud cyfraniad i wrthweithio'r carbon a gynhyrchir gan y daith awyren yr ewch arni. Mae'r arian hwn yn cael ei ddefnyddio'n gynyddol at gynlluniau sy'n anelu at leihau datgoedwigo mewn gwledydd incwm isel.
"Wrth weithio ym Madagascar byddwn yn edrych sut y gellir defnyddio'r arian hwn i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl o ran bywoliaethau pobl, gan sicrhau'r un pryd hefyd bod y carbon yn cael ei gloi yn y tymor hir ac nad yw'n cyfrannu at newid hinsawdd."
Daw'r cyllid o'r rhaglen Ecosystem Services for Poverty Alleviation (ESPA), sef cynllun gwerth £40 miliwn gan yr Adran Datblygu Rhyngwladol, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Chyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.
Meddai Dr Morag McDonald, Pennaeth Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth: “Rydym yn hynod falch bod y project pwysig yma wedi cael ei gyllido. Mae'n adeiladu ar yr enw da sydd gan ein hysgol eisoes ym maes ecoleg drofannol, defnyddio tir a datblygu rhyngwladol."
Mae'r project tair blynedd 'The three year project 'P4GES: Can Paying 4 Global Ecosystem Services reduce poverty?' yn cynnwys consortiwm o sefydliadau o wledydd Prydain, Madagascar, yr Iseldiroedd a'r Unol Daleithiau. Meddai'r Athro Bruno Ramamonjisoa o Brifysgol Antananarivo ym Madagascar, un o arweinwyr y project, "Mae Madagascar yn wlad dlawd iawn gyda miliynau o bobl cefn gwlad yn ddibynnol iawn ar adnoddau naturiol. Bydd yr ymchwil hon yn helpu i sicrhau cyllid o gynlluniau ecosystem rhyngwladol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl."
Mae'r project hefyd yn amlygu cysylltiadau cynyddol yn llawer nes adref - rhwng Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth. Meddai'r Athro Mike Christie o Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth: "Mae Cynghrair Strategol Aberystwyth-Bangor yn ein galluogi i ddefnyddio cryfderau ymchwilwyr yn y ddwy Brifysgol. Mae'r project yma'n enghraifft arall o'r ffordd y mae'r gynghrair hon yn ein helpu i sicrhau cyllid sylweddol mewn byd ymchwil cynyddol gystadleuol."
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2013