Defnyddio ein heulwen Gymreig
Yng Nghymru rydym yn cael 1,390 awr o heulwen bob blwyddyn ar gyfartaledd ac fe ellid troi'r heulwen honno'n drydan. Pe baem ond yn gallu dal cyfran fechan o'r heulwen a'i throi'n drydan, ni fyddem angen ffynhonnell arall i greu trydan i gyflawni ein holl anghenion ynni.
Yr enw ar y dechnoleg hon yw photovoltaics, sy'n harneisio pelydrau'r haul a throi'r ynni'n drydan y gellir ei ddefnyddio'n lleol wedyn neu ei fwydo i'r grid cenedlaethol.
Yn rhyngwladol mae'r farchnad Photovoltaic (PV) yn tyfu'n gyflym a gwelir y duedd honno yng Nghymru hefyd a gwledydd eraill Prydain. Mae'r cynnydd presennol mewn technolegau photovoltaic wedi cael ei ysgogi'n bennaf wrth i ddeunyddiau a dyfeisiadau newydd i wella perfformiad a gostwng costau gael eu datblygu, yn ogystal â darpariaethau ariannol gan y llywodraeth.
Mae arbenigwyr PV yn Ysgol Peirianneg Electronig y Brifysgol wedi bod yn elwa ar y twf sylweddol yn y farchnad drwy weithio i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o ddyfeisiau PV. Gall y rhain fod yn rhatach, gellir hefyd eu hymgorffori'n haws mewn adeiladau ac maent yn fwy addas i hinsawdd fel un Cymru. Mae'r deunyddiau a ddefnyddir yn rhai organig eu natur ac nid ydynt yn wenwynig.
Fel hyn yr eglurodd Dr Jeff Kettle, darlithydd ac ymchwilydd yn yr Ysgol Peirianneg Electronig: "Gall y mathau o gelloedd solar rydym yn gweithio efo nhw fod yn newid sylweddol at greu trydan solar ar draws y rhanbarth. Er mai wrthi'n cael eu datblygu y mae llawer o'r dyfeisiadau PV newydd yma ar hyn o bryd, mae yna botensial enfawr at y dyfodol gan eu bod mor hwylus ac ysgafn."
"Mae cefnogi'r diwydiant PV yng Nghymru drwy gryfhau'r sylfaen academaidd a thrwy ganolfannau trosglwyddo gwybodaeth yn rhan bwysig o sicrhau bod Cymru'n elwa'n sylweddol o'r twf yma," ychwanegodd.
Rhoddir yr ymrwymiad hwn ar waith drwy fenter €1.8 miliwn i ddatblygu a chynnal cyflogaeth yn y diwydiant ynni solar pwysig yng Nghymru ac Iwerddon. Mae'r ‘Wales Ireland Network for Innovative Photovoltaic Technologies’ (WIN-IPT) yn gynllun ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor, y Waterford Institute of Technology a Phrifysgol Abertawe. Mae wedi ei gyllido'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy'r rhaglen Cymru Iwerddon 2007-13. Mae'r Rhwydwaith yn galluogi i ddiwydiannau perthnasol yn y rhanbarth gael y wybodaeth a'r hyfforddiant diweddaraf am y datblygiadau cyfredol yn y dechnoleg hon sy'n symud mor gyflym a bydd hynny'n hybu arloesi pellach yn y sector ynni solar.
Cynhelir gweithdy'n ymdrin â 'Datblygiadau newydd mewn technoleg PV' ym Mangor ar 6 Medi i dynnu sylw at dueddiadau presennol yn y diwydiant PV. Bydd arbenigwyr academaidd o Gymru ac Iwerddon yn cymryd rhan. Mae'r digwyddiad wedi'i anelu at ymchwilwyr, diwydiant a chwmnïau a sefydliadau sydd â diddordeb cyffredinol mewn ynni adnewyddadwy.
Gellir cofrestru yma
Yn ôl Dr Jeff Kettle: "Mae gan y partneriaid sy'n ymwneud â'r Rhwydwaith record gadarn o wneud gwaith ymchwil sy'n berthnasol yn fasnachol. Fedr yr un unigolyn gyflawni'r math o sialensiau rydym yn delio efo nhw; felly rydym wedi dod â thîm rhyngddisgyblaethol o gemegwyr, peirianwyr dyfeisiadau, arbenigwyr gweithgynhyrchu, a'r rhai fydd yn defnyddio'r offer yn y diwydiant, at ei gilydd.
Er gwaethaf y dirwasgiad economaidd, mae'r trydan solar a gynhyrchir ar draws Ewrop yn dal i gynyddu. Mae cost ynni solar yn gostwng yn gyson, fel y mae cost olew a nwy yn parhau i godi."
Amcangyfrifir bod gan Gymru'r gallu i gynhyrchu 150-200 MegaWat (MW) o drydan solar yn Awst 2013, sef tua 2 ran o 5 o'r hyn mae gorsaf niwclear Yr Wylfa'n ei gynhyrchu ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi yr hoffai ddiwygio'r targed i dros 22 GigaWat (22000 MW) ar draws gwledydd Prydain erbyn 2020. Amcangyfrifir am bob MW o drydan a ddarperir bod hynny'n arwain at greu tua 50 o swyddi newydd yn y diwydiant, yn ymwneud â gosod yr offer a chynnal y ddarpariaeth wedyn.
Mae'r Ysgol Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei hystyried yn un o ysgolion peirianneg mwyaf blaenllaw Cymru ac, yn yr asesiad ymchwil diwethaf, fe'i gosodwyd yn ail drwy Brydain.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2013