Defnyddio’r Gymraeg yn y Gymuned
Fel rhan o werthusiad o Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, cynhaliwyd astudiaeth ymchwil gan Dr Rhian Hodges a Dr Cynog Prys, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor i’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn chwe chymuned yng Nghymru. Canfuwyd bod sefyllfa’r Gymraeg yn parhau i fod yn fregus o fewn cymunedau’r astudiaeth sef Aberteifi, Aberystwyth, Bangor, Llanrwst, Porthmadog a Rhydaman. Er hynny, gwelwyd tystiolaeth o ddefnydd o’r Gymraeg yn y cymunedau yn ogystal ag awydd i gael mwy o gyfleoedd amrywiol i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn bywyd bob dydd (e.e. wrth siopa neu dderbyn gwasanaethau cyhoeddus).
Yn ôl Dr Rhian Hodges, Darlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor:
“Un bwlch penodol a ddaeth i’r amlwg oedd bod yna ddiffyg cyfleoedd i bobl ifanc hŷn ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Daeth i’r amlwg bod angen mwy o weithgareddau cymunedol i adeiladu ar y cyfleoedd ffurfiol a geir o fewn y system addysg.”
Mae nifer o argymhellion yn deillio o’r ymchwil hwn gan gynnwys:
- Cryfhau’r pontio rhwng y byd addysg a’r gymuned ehangach drwy amrediad o weithgareddau hamdden atyniadol i bobl ifanc hŷn.
- Pwysleisio defnydd y Gymraeg mewn gweithgareddau dydd-i-ddydd (e.e. defnydd iaith mewn siopau ac wrth gyrchu gwasanaethau cyhoeddus), yn ogystal â defnydd y Gymraeg mewn digwyddiadau sydd wedi’u trefnu yn y gymuned.
- Hwyluso cyfleoedd i ddysgwyr y Gymraeg ddefnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i wersi Cymraeg ffurfiol.
Yn ôl Dr Cynog Prys:
“Mae asesu’r cyfleoedd sydd gan y cyhoedd i ddefnyddio iaith Gymraeg o ddydd i ddydd yn fesur hollbwysig er mwyn cynllunio ei dyfodol. Tra bod y chwe chymuned yn wahanol, gwelwyd anghenion tebyg ym mhob un ohonynt. Y gobaith yw bydd yr ymchwil hwn am gynorthwyo Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi cymunedau cynaliadwy iaith Gymraeg ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
“Er nad yw’r adroddiad hwn ond yn ymdrin â nifer bach o gymunedau bydd yn gwella ein dealltwriaeth o’r modd y gallwn gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau. Mae’n creu darlun defnyddiol o’r modd y mae pobl yn defnyddio’r iaith yn eu bywydau dyddiol a bydd o gymorth wrth asesu pa mor effeithiol oedd ein Strategaeth y Gymraeg.
“Rwyf wedi datgan droeon fod galluogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol o fewn eu cymunedau yn gwbl allweddol. Mae’r adroddiad yn cydnabod hyn ac yn tynnu sylw at yr angen i barhau i greu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd, er enghraifft wrth siopa neu’n y gweithle, ac wrth ymdrin â sefydliadau.
“Gwych yw gweld fod ein hymyriadau drwy Bwrw Mlaen yn creu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg wrth iddynt gymdeithasu a mwynhau gweithgareddau hamdden. Mae sawl her o’n blaenau, fodd bynnag, a byddwn yn ystyried yn ofalus sut y gallwn greu rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd. Byddwn yn cydweithio â rhanddeiliaid allweddol er mwyn cyflawni hyn.”
Gweler linc isod i’r astudiaeth ymchwil:
http://gov.wales/statistics-and-research/welsh-language-strategy-evaluation/?lang=cy
http://gov.wales/statistics-and-research/welsh-language-strategy-evaluation/?skip=1&lang=en
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2015