Degfed blwyddyn Cyrsiau Preswyl Ysgol y Gymraeg yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn
Cyrsiau Cymraeg Iaith Gyntaf (19-21 Tachwedd 2018) ac Ail Iaith (21-23 Tachwedd 2018)
Mae cyrsiau preswyl Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor mewn partneriaeth â Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn, wedi hen ennill eu plwyf ymhlith disgyblion ac athrawon. Bellach yn eu degfed blwyddyn, maent yn gyfle blynyddol i fyfyrwyr ail iaith ac iaith gyntaf ddod ynghyd i gael gwledd o drafodaethau ar y meysydd a’r materion sy’n berthnasol i’w cyrsiau Cymraeg Safon U/UG.
Disgwylir y bydd dros 150 o fyfyrwyr yn mynychu’r cyrsiau eleni, gan deithio o pob cwr o Gymru i wersyll yr Urdd, Glan-llyn, yn ardal Y Bala.
Unwaith eto eleni, caiff myfyrwyr a’u hathrawon gyfle i wrando ar rai o ddarlithwyr mwyaf blaenllaw Cymru, gyda nifer ohonynt hefyd yn feirdd a llenorion adnabyddus, yn dadansoddi rhai o destunau gosod Cymraeg Safon U/UG, gan roi cip ar arbenigeddau amrywiol staff a myfyrwyr ymchwil Ysgol y Gymraeg.
Eleni, ac ymhlith pethau eraill, cynhelir sesiynau ar ddrama Siwan Saunders Lewis, cerddi Dafydd ap Gwilym, y nofel Un Nos Ola Leuad yn ogystal â chymhariaeth o waith Waldo a gwaith y diweddar Gwyn Thomas, bardd a oedd hefyd yn Athro Emeritws yn Ysgol y Gymraeg.
Cynhelir y cwrs iaith gyntaf ar 19–21 Tachwedd a bydd y cwrs ar gyfer myfyrwyr ail iaith yn cael ei gynnal ddeuddydd yn ddiweddarach, ar 21–23 Tachwedd.
Wrth edrych ymlaen at gyrsiau 2018, meddai’r Athro Angharad Price, a fydd yn cynnal darlithoedd ar farddoniaeth T. H. Parry-Williams ac ar ysgrifennu creadigol eleni:
"Ers degawd mae staff Ysgol y Gymraeg wedi bod yn cydweithio'n llwyddiannus efo Glan Llyn i gynnig y dosbarthiadau meistr hyn i fyfyrwyr AS/A2 Cymraeg. Dyma wythnos lawn o ddarlithoedd a gweithgareddau i'r disgyblion ail iaith ac iaith gyntaf fel ei gilydd. Ac mae'n wych bod mwy nag erioed wedi cofrestru eleni - yn brawf o lwyddiant y cwrs!"
Am fwy o fanylion, cliciwch yma: https://www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg/cwrs-preswyl.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2018