Dementia: gall y label "salwch" wneud i bobl fod yn isel eu hysbryd
Bu pobl yng ngogledd Cymru yn cymryd rhan mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac sy'n dangos bod pobl sy'n ystyried symptomau dementia fel salwch yn teimlo'n fwy negyddol na'r rhai sy'n ei weld fel rhan annatod o fynd yn hŷn.
Roedd yr ymchwil hwn dan arweiniad yr Athro Linda Clare, gynt o Ysgol Seicoleg ac ym Mhrifysgol Exeter erbyn hyn, yn edrych ar bobl oedd wedi cael diagnosis o ddementia yn ddiweddar, ac wedi cael symptomau fel colli cof, cael anhawster i ganolbwyntio neu wneud tasgau dyddiol. Cefnogwyd yr astudiaeth gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chanfuwyd bod pobl a oedd yn gweld y symptomau hyn fel salwch yn fwy isel eu hysbryd na'r rhai oedd yn ei weld fel rhan o'r broses heneiddio.
Meddai'r Athro Linda Clare, a arweiniodd yr astudiaeth: "Mae pwyslais mawr ar gael diagnosis cynharach o ddementia, ond mae ein tystiolaeth yn codi'r cwestiwn hollbwysig sef i ba raddau y mae labelu diagnosis o fudd i bobl mewn gwirionedd. Mae rhai pobl eisiau i'w anawsterau gael eu cydnabod gyda diagnosis, ond mae ein hymchwil yn dangos bod nifer o rai eraill yn deall bod yr hyn sy'n digwydd iddyn nhw yn rhan o broses normal o heneiddio. I'r grŵp hwn, efallai y byddai'n well i ni dargedu cefnogaeth a gwybodaeth yn seiliedig ar eu symptomau neu'r math o anawsterau bob dydd maent yn eu hwynebu, yn hytrach na chanolbwyntio ar roi label diagnostig. Mae hon yn astudiaeth gymharol fechan ac mae'n rhaid i ni yn awr wneud gwaith pellach i gadarnhau hyn er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r gefnogaeth orau yn y maes hollbwysig hwn o ddiagnosis iechyd, sydd â goblygiadau mawr o ran sut mae pobl yn addasu ac ymdopi gyda'r newidiadau hyn yn ddiweddarach yn eu bywydau.
Roedd yr astudiaeth, a oedd yn cynnwys cydweithwyr o brifysgolion Bangor a Chaerdydd ac a gyhoeddwyd yn y Journal of Alzheimer’s Disease, yn edrych ac 64 o bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru a oedd wedi cael diagnosis o glefyd Alzheimer neu ddementia ysgafn neu ganolig, ac wedi cymryd rhan yn yr Astudiaeth Nam ar y Cof ac Ymwybyddiaeth o Ddementia. Cawsant eu cyfweld a buont yn llenwi holiaduron ac ym mhob achos cyfwelwyd â gofalwr hefyd. Er gwaethaf y diagnosis, nid oedd bron i ddwy ran o dair o'r grŵp hwn yn ystyried eu hunain yn "sâl", ond roeddent yn gweld y cyflwr fel arwydd o heneiddio.
Meddai'r cydawdur, yr Athro Bob Woods o Brifysgol Bangor, "Rydym angen rhagor o ymwybyddiaeth am y gwahanol ffyrdd y mae pobl gyda dementia yn ymdopi gyda'u cyflwr ac yn addasu iddo, fel y gallwn deilwra gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i'r unigolyn. Nid yw'r un peth yn addas i bawb!"
Roedd y rhai a oedd yn ystyried bod ganddynt salwch yn fwy isel eu hysbryd ac yn disgrifio rhagor o ganlyniadau emosiynol yn cynnwys dicter, tristwch, cywilydd a cholli hyder.
Cyhoeddwyd y papur, “I Don’t Think Of It As An Illness: Illness Representations in Mild to Moderate Dementia", yn y Journal of Alzheimer’s Disease, gan Linda Clare, Catherine Quinn, Ian Rees Jones a Bob Woods.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2016