Deng mlynedd o lwyddiant - busnesau yn dod ynghyd i ddathlu GO Wales ym Mhrifysgol Bangor
Daeth dros hanner cant o fusnesau o bob rhan o ogledd orllewin Cymru at ei gilydd ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos ddiwethaf i ddathlu degfed pen-blwydd GO Wales, y project cymorth busnes a chyflogadwyedd. Daeth nifer o asiantaethau cymorth i fusnes o bob rhan o'r rhanbarth i'r digwyddiad hefyd, yn ogystal â chynrychiolwyr o Brifysgol Bangor sydd i gyd wedi rhoi cefnogaeth barhaus i'r rhaglen yn ystod y ddegawd ddiwethaf.
Mae project GO Wales yn cefnogi myfyrwyr a graddedigion i gael profiad gwaith ac yn galluogi cwmnïau lleol i ddefnyddio sgiliau lefel uwch myfyrwyr a graddedigion trwy amrywiaeth o fentrau profiad gwaith sy'n aml yn arwain at swyddi parhaol i'r unigolion.
Cyllidir y project gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chaiff ei weithredu gan bob prifysgol yng Nghymru. Mae'r tîm ym Mhrifysgol Bangor wedi trefnu 560 o leoliadau gwaith o safon uchel i raddedigion gyda busnesau lleol, dros 400 o gyfnodau blasu gwaith ac wedi cymeradwyo 170 o geisiadau am gyllid i gefnogi datblygu sgiliau graddedigion mewn busnesau lleol.
Meddai Becky Ryan, Rheolwr Profiad Gwaith GO Wales ym Mhrifysgol Bangor, "Gyda'r ffioedd dysgu a'r problemau cyffredinol mewn cael hyd i waith, rhoddir pwysau cynyddol ar fyfyrwyr a graddedigion i sefyll allan yn y dorf felly mae rhaglen fel GO Wales yn bwysig o ran rhoi fframwaith i gefnogi'r unigolion hyn wrth iddynt gymryd y cam cyntaf yn eu gyrfaoedd".
Ychwanegodd Chris Little, Pennaeth Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor, "Mae project GO Wales Prifysgol Bangor yn bendant wedi cael effaith ar fusnesau lleol yn y rhanbarth ac mae hyn wedi rhoi hwb i'r economi leol ac i raddedigion yn yr ardal sy'n cymryd y camau cyntaf ar eu llwybr gyrfaol."
Yr Athro David Shepherd, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil a Menter ym Mhrifysgol Bangor a agorodd y digwyddiad gan ddweud,
"Mae GO Wales yn rhaglen hynod o effeithiol sy'n gallu rhoi budd amlwg i fyfyrwyr, cyflogwyr lleol a’r brifysgol. Mae'r rhaglen wedi ein galluogi i wella cyflogadwyedd llawer o'n graddedigion ac ar yr un pryd mae busnesau lleol wedi gallu cael sgiliau newydd a rhagor o staff. Mae’r ddau lwyddiant yn ganlyniadau pwysig i'r brifysgol".
Cyflwynodd David Lea-Wilson, Cyfarwyddwr Halen Môn, bedair gwobr i fusnesau bach yng ngogledd orllewin Cymru sydd wedi dangos ymroddiad i gefnogi a datblygu graddedigion yn y rhanbarth yn ystod y ddegawd ddiwethaf,
- Y cyfraniad mwyaf nodedig i brofiad gwaith - Sw Mynydd Cymru
- Darparwr newydd gorau profiad gwaith - COFNOD
- Yr ymroddiad mwyaf nodedig i broject GO Wales - View Creative
- Gwobr Canolfan Sgiliau CADARN am ddatblygu sgiliau graddedigion - Outlook Expeditions
Wrth dderbyn ei gwobr, meddai Sue Colemant, Swyddog Addysg Sw Mynydd Cymru,
"Roedd yn fuddiol iawn cael rhagor o help yn ystod y tymor prysur i gynllunio, paratoi a rhedeg rhaglen haf Diwrnodau'r Sŵolegwyr Ifanc i blant rhwng 8 a 12 oed."
"Roedd cael Lauren, y myfyriwr graddedig, yn ein helpu i ryddhau aelodau eraill o'r staff i wneud gweithgareddau a digwyddiadau na fyddai wedi bod yn bosibl hebddi. Roedd hyn yn fuddiol iawn i'r gwaith o gynnal ein rhaglen".
Design Agency View Creative sydd wedi elwa mwyaf o gefnogaeth y rhaglen yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf. Meddai Simon Cotton, Cyfarwyddwr View Creative,
“Roedd yn bleser gennym allu cynnig sawl lleoliad i raddedigion. Rydym wedi elwa o gael myfyrwyr o safon uchel gyda graddau rhagorol ac yn bwysicach na dim, syniadau newydd. Fel busnes bach yng Nghymru roeddem yn credu ei fod yn bwysig ein bod yn gallu cynnig profiad gwaith hollbwysig i raddedigion lleol, gan eu helpu i fynd i'r byd gwaith ar ôl astudio."
"Cawsom rhai graddedigion galluog iawn a oedd yn awyddus i ddysgu a datblygu eu sgiliau yn y gwaith. Roedd yn bleser gennym allu cynnig contractau cyflogaeth parhaol o ganlyniad i'r lleoliadau".
Yn y llun ond nid yn nhrefn chwith-dde mae'r enillwyr: Simon Cotton - View Creative, Roy Tapping - Cofnod, Sue Coleman- Sw Mynydd Cymru a Claire Hitchins - Outlook Expeditions. Tîm GO Wales Bangor: Becky Ryan, Lis Owen, Elinor Churchill, David Pritchard, Tess Cameron, Mererid Gordon and Lydia Richardson a Pennaeth Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd: Chris Little, a siaradwyr a cyflwynwyr: David Lea Wilson- Halen Mon, a Bryn Jones a Katie Thomas o Ganolfan Sgiliau Cadarn.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2013