Denu arbenigwyr gwyddor gymdeithasol y dyfodol i Gymru
Dyfarnwyd miliynau o bunnau i brifysgolion blaenllaw Cymru er mwyn hyfforddi gwyddonwyr cymdeithasol o’r radd flaenaf mewn amrediad o faterion sy’n effeithio ar gymdeithas y dyddiau hyn.
Bydd sefydlu Canolfan Hyfforddi Ddoethurol yn golygu y bydd modd cynnig 33 o ysgoloriaethau ymchwil i fyfyriwr ôl-raddedig yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Bydd y myfyrwyr ôl-raddedig yn derbyn hyfforddiant mewn amrediad o ddisgyblaethau, gan gynnwys polisi cymdeithasol, seicoleg, economeg, cynllunio amgylcheddol ac ieithyddiaeth.
Bydd Prifysgol Caerdydd yn arwain consortiwm Cymru ar y cyd ag Aberystwyth, Bangor ac Abertawe i greu’r Ganolfan Hyfforddi Ddoethurol, wedi’i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Bydd Prifysgol Bangor yn arwain mewn tri maes pwnc yn y ganolfan, sef seicoleg, dwyieithrwydd ac economeg a chyllid, er y bydd pob myfyriwr doethuriaeth ym maes gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru’n elwa o gydweithrediad agosach rhwng y pedwar sefydliad.
Yn ogystal a’r pynciau a restrwyd uchod, mae’r meysydd pwnc eraill a fydd yn denu’r ysgoloriaethau ymchwil ag ariannu llawn, yn cynnwys addysg, daearyddiaeth ddynol, astudiaethau rheoli a busnes, gwyddor wleidyddol a chysylltiadau rhyngwladol, astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg, gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol, troseddeg, cymdeithaseg, dwyieithrwydd, astudiaethau’n seiliedig ar ieithoedd ac astudiaethau empirig yn y gyfraith.
Bydd manylion llawn ynglŷn â’r ysgoloriaethau ymchwil a sut i wneud cais ar gael cyn bo hir ar wefannau’r prifysgolion cyfranogol.
Mae consortiwm Cymru yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o 21 o Ganolfannau Hyfforddi Doethurol ar draws y DG, yn cael eu barnu gan ESRC i ddarparu hyfforddiant gwirioneddol ragorol i fyfyriwr ôl-raddedig.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Dr David Grant: “Mae’r cydweithio llwyddiannus hwn yn hwb i enw da Cymru yn rhyngwladol am ragoriaeth yn y gwyddorau cymdeithasol.
“Wrth ennill achrediad, mae Canolfan Hyfforddi Ddoethurol Cymru wedi dangos rhagoriaeth yn ehangder ei hyfforddiant yn y gwyddorau cymdeithasol i fyfyriwr ôl-raddedig, sy’n rhan o amgylchedd ymchwil o’r ansawdd gorau.”
Dywedodd y Cyfarwyddwr Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, yr Athro Jo Rycroft-Malone: “Bydd trefniadau’r Ganolfan Hyfforddi Ddoethurol yn ychwanegu agweddau newydd gwerthfawr at brofiad myfyrwyr ôl-raddedig wrth gynnig llwybrau mwy amrywiol, hyfforddiant uwch, a gwell cymorth. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu mewn amgylchedd ymchwil rhyngddisgyblaethol, ac mae Bangor wrth ei bodd yn cyfranogi.”
Bydd yr ysgoloriaethau ymchwil yng Nghanolfan Hyfforddi Ddoethurol Cymru yn dechrau ym mis Hydref 2011. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch ESRCWalesDTC@cardiff.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2011