Derbyniad y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Bu Dr Wei Shi, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor, ymysg y rhai a wahoddwyd i dderbyniad Blwyddyn Newydd Tsieineaidd yn Adeilad y Senedd, Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Croesawyd oddeutu 200 o wahoddedigion o bob cwr o Gymru gan y Prif Weinidog Carwyn Jones a’i Ardderchowgrwydd Liu Xiaoming o’r Llysgenhadaeth Tsieineaidd. Disgynnodd y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ar 10 Chwefror eleni. Mae’n Flwyddyn y Neidr.
Traddododd Llysgennad Tsieina araith ganmoliaethus. Wedi hyn, cafwyd perfformiad o Ddawns Llew, ac yna perfformiodd disgyblion Ysgol Gynradd Lansdowne ddawns fambŵ draddodiadol.
Yn ystod y derbyniad, cyfarfu Dr Shi â’r Athro David Boucher a Dr Thomas Jansen, Cyfarwyddwyr Sefydliadau Confucius eraill ym mhrifysgolion Caerdydd a’r Drindod Dewi Sant. Cafodd Dr Shi hefyd sgwrs glên â John Whalley, Prif Weithredwr Aerospace Cymru, a’i gydweithwyr, a ddangosodd ddiddordeb mawr mewn creu cysylltiadau â Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2013