Deunyddiau Adeiladu Gwyrdd i'r diwydiant adeiladu yng Nghymru
BEACON yn cynnal Seminar ar Ddeunyddiau Adeiladu Gwyrdd i'r diwydiant adeiladu yng Nghymru.
Yn ddiweddar daeth dros 50 o gynadleddwyr i seminar ym Mhrifysgol Bangor a oedd yn canolbwyntio ar helpu busnesau Cymreig i weithio gyda deunyddiau adeiladu arloesol sy'n arbed ynni, a'u cynhyrchu hefyd.
Mae angen i ni gael mwy o werth o'n hadnoddau naturiol ac mae'r angen hwn yn arbennig o berthnasol yn y diwydiant adeiladu sydd mor drwm ar adnoddau. Bydd gallu defnyddio nwyddau a deunyddiau'n fwy effeithlon yn helpu ein balansau banc yn ogystal â'n planed.
Trefnwyd y seminar am ddim hon er mwyn tynnu sylw at rai o'r prif enghreifftiau sut mae cwmnïau’n defnyddio adnoddau Cymreig cynaliadwy wrth adeiladu ac i hyrwyddo trafodaeth ar syniadau newydd am gynhyrchion yn deillio o blanhigion. Fe'i cynhaliwyd gan BEACON a'r Gynghrair dros Gynhyrchion Adeiladu Cynaliadwy. Mae Beacon yn gynllun 5 mlynedd sy'n canolbwyntio ar waith bio buro ac fe'i cyllidir gan y Gronfa Datblygu Ranbarthol (ERDF) a Llywodraeth Cymru. Mae'r bartneriaeth gydweithredol yn cynnwys Prifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe. Mae'r Gynghrair dros Gynhyrchion Adeiladu Cynaliadwy yn sefydliad sy'n ymroi i ddarganfod cynhyrchion adeiladu mwy cynaliadwy a'u defnyddio.
Cafwyd cyflwyniadau yn y seminar hanner diwrnod gan rai o'r byd academaidd a busnes, yn cynnwys cyflwyniad gan gwmni Cymreig, Coed Cymru, ar adeiladu gyda phren meddal sy'n hawdd, yn gyflym ac yn gynaliadwy i'w dyfu. Rhoddodd Adnoddau Naturiol Cymru wybodaeth i'r gynulleidfa ar sut y bydd adeiladu da yn arbed ynni yn y dyfodol a helpu i leihau ein hôl troed carbon yn ystod y blynyddoedd i ddod. Fe wnaeth NBT (Natural Building Technologies) ddisgrifio sut maent yn gweithio gyda chynhyrchion a dulliau adeiladu cynaliadwy a'r manteision sydd eisoes i'w gweld o ddefnyddio'r dechnoleg hon.
Meddai Adam Charlton o Brifysgol Bangor, Rheolwr Project Beacon, a drefnodd y digwyddiad:
"Dwi'n hynod falch bod cymaint o fusnesau Cymreig lleol wedi dod i'r seminar. Cafodd y cyflwyniadau i gyd dderbyniad da ac maent wedi ysgogi cynlluniau pellach i gydweithio yn y dyfodol. Rydym yn hynod falch o'r diddordeb a'r brwdfrydedd a ddangoswyd yn dilyn y digwyddiad hwn ac rydym yn edrych ymlaen at drefnu mwy o ddigwyddiadau penodol i'r sector yn y dyfodol agos.
Nod y project yw sefydlu Cymru fel Canolfan Ragoriaeth fyd-eang ym maes Bio Buro, trwy ddatblygu a masnacheiddio cynhyrchion a dulliau gweithredu arloesol newydd, yn deillio o ystod o fiomas planhigion. Gwneir hyn drwy ddatblygu gwybodaeth ac arbenigedd bio buro mewn ystod o stociau bwyd, systemau prosesu a thechnolegau trosi.
Mae gan BEACON ddiddordeb mewn rhyngweithio a gwaith ymchwil ar y cyd gyda chwmnïau newydd, busnesau bach a chanolig sydd yn weithgar yn y bio-economi yng Nghymru. Mae sectorau yn y farchnad sydd yn barod i'w datblygu yn cynnwys amaeth, cosmeteg naturiol, cynnyrch coedwigoedd a naturiol, ffibrau naturiol, cynhyrchion iechyd a meddygol, polymerau bioseiliedig, cynhyrchion maethol a fferyllol. Gall busnesau cymwys dderbyn cefnogaeth fusnes am ddim gan BEACON. Mae'r gefnogaeth am ddim hon yn cynnwys cael defnyddio amrywiaeth o offer arbrofol ac arbenigedd gwyddonol i wneud gwaith ymchwil a datblygu.
Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan BEACON
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2014