Deunyddiau o Archifdy Prifysgol Bangor yn ymddangos ar ITV1
Llun: Adeiladu ffordd yn Cwm Hyfryd c1888. Yn y canol Llwyd ap Iwan mab i Michael D Jones a lofruddiwyd gan 'fandits' ym 1909.
Bydd deunyddiau o Archifau Prifysgol Bangor yn ymddangos ar gyfres newydd ar ITV1 yn ystod yr haf. Bydd cyfres ddogfen bum rhan newydd sbon yn datgelu 50 o straeon rhyfeddol sydd y tu ôl i gartrefi mwyaf dirgel, rhyfedd a diddorol gwledydd Prydain.
Cyflwynir y gyfres gan y darlledwyr profiadol Michael Buerk a Bettany Hughes, ond bydd hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan amrywiaeth eang o bobl adnabyddus ac arbenigwyr, gan gynnwys Syr David Jason, Ricky Tomlinson, Twiggy a Michael Portillo.
Mae pob un o'r cartrefi a ddatgelir yn y 50 uchaf yn dweud stori hynod am hanes amrywiol y gwledydd hyn a sut yr oeddem yn byw ar un adeg. O fythynnod i dai cyngor, byngalos i balasau, mae rhai o'r cartrefi mwyaf arwyddocaol ym Mhrydain yn parhau’n gymharol anhysbys i'r cyhoedd. Ond mae’r holl leoedd anghyffredin hyn wedi bod yn dyst i adegau allweddol yn ein hanes.
Darlledir y drydedd bennod ddydd Gwener 21 Mehefin am 9 pm ac fe’i cyflwynir gan Gethin Jones. Ynddi cawn glywed am Bodiwan yn Y Bala. Tŷ’n cynnig gwely a brecwast yw Bodiwan bellach, ond 150 o flynyddoedd yn ôl roedd yn gartref i'r Parchedig Michael D Jones. Ac yntau wedi cael hen ddigon ar y gormes roedd yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn ei ddioddef yn ei famwlad, penderfynodd Michael D Jones greu 'Cymru Newydd' ar draws y moroedd. Dewiswyd Dyffryn Camwy, ardal denau ei phoblogaeth ym Mhatagonia, ar gyfer y wladfa. Yn 1865, hwyliodd y Mimosa o Lerpwl am yr Ariannin gydag oddeutu 160 o ddynion, merched a phlant o Gymru ar ei bwrdd. Dioddefodd yr ymfudwyr cynnar galedi fel sychder a llifogydd yn y wladfa ond, er gwaethaf popeth, fe wnaethant ffynnu ac, yn rhyfeddol, hyd heddiw mae disgynyddion yr ymfudwyr gwreiddiol yn dal i fyw ym Mhatagonia ac yn siarad Cymraeg
Gan Archifau Prifysgol Bangor y mae’r casgliad mwyaf y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru o ddeunydd yn ymwneud â'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia . Bydd lluniau o Michael D Jones, yr ymsefydlwyr cyntaf ac ymsefydlwyr yng Nghwm Hyfryd, a ddarperir gan Brifysgol Bangor, yn ymddangos ar y rhaglen.
Mewn partneriaeth â CADW a chyrff treftadaeth o Loegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, daw pob stori yn fyw drwy ddefnyddio archifau, delweddau cyfrifiadurol yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, ac ail-greu dramatig. O blasdai i dai teras, bydd straeon y cartrefi hyn yn agoriad llygad , gan ymdrin â chynllwynio gwleidyddol, dyfeisiadau, rhamant ac arwriaeth sy'n creu patrwm amrywiol a chyfoethog hanes gwledydd Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mehefin 2013