Dewch i fwynhau cymuned amlddiwylliannol y Brifysgol
Bydd cymysgedd eclectig o ddiwylliannau a thraddodiadau i’w weld yn Neuadd Prichard Jones yn y Brifysgol am 6.00 nos Wener 11 Chwefror 2011.
Mae Noson Ryngwladol flynyddol y Brifysgol yn gyfle i ddathlu cymuned amrywiol myfyrwyr rhyngwladol y Brifysgol, sy’n dod i Fangor o fwy na 80 o wledydd mor wahanol i’w gilydd â Casacstan, Irac a Japan. Mae’r digwyddiad yn gyfle i fwynhau’r amrywiaeth diwylliannol cyfoethog sydd ymysg y Brifysgol a chael cipolwg ar y diwylliannau traddodiadol a chyfoes y daw’r myfyrwyr â hwy yma.
Meddai Alan Edwards, Swyddog Lles Myfyrwyr Rhyngwladol, “Mae croeso cynnes i staff a myfyrwyr ymuno â ni a mwynhau gwledd o berfformiadau o ddawns a chân gan fyfyrwyr o bedwar ban byd. Bydd bwyd a diod hefyd ar gael. Dewch i ddathlu'r amrywiaeth eang o ddiwylliannau a geir yma ym Mangor mewn noson fywiog, liwgar a llawn hwyl!”
Mae’r perfformiadau’n cael eu cyflwyno gan unigolion a chan y nifer o gymdeithasau myfyrwyr rhyngwladol o fewn y Brifysgol. Yn ogystal â pherfformiad ‘croeso’ gan Fand Pres y Brifysgol, mae perfformiadau yn yr arfaeth ar gyfer y noson yn cynnwys dawnsfeydd traddodiadol o’r India, Brunei a Fietnam, yn ogystal â dawns i’w pherfformio gan aelodau’r Gymdeithas Affro-Caribïaidd, cân bop gan fyfyrwyr o Tsieina a chân o Dde Affrica i’w pherfformio gan fyfyriwr o’r wlad.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2011