Dewch i weld beth sydd ar gael mewn diwrnod agored i ôl-raddedigion ym Mhrifysgol Bangor
Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal Diwrnod Agored i ôl-raddedigion ddydd Mercher 16 Mawrth. Bydd y drysau’n agor am ganol dydd ac mae croeso i ymwelwyr ddod i rai o’r ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu ar gyfer y diwrnod, neu i bob un ohonynt.
Yn ogystal â gweld arddangosfa, gyda phob un o ysgolion academaidd ac adrannau perthnasol y Brifysgol yn cymryd rhan ynddi, gall ymwelwyr fynd i sesiynau byrion yn ymwneud ag astudio ôl-radd a chyllido, ymweld ag Ysgolion neu Golegau unigol i gael gweld mwy o’r ddarpariaeth yn eu dewis faes a chael cyfle i weld y neuaddau preswyl sydd ar gael i fyfyrwyr ôl- raddedig.
Fel yr eglura Michael Rogerson, Swyddog Marchnata ôl-radd yn y Brifysgol:
”Nid rhywbeth i’w ystyried gan rai sydd wedi graddio’n ddiweddar yn unig yw astudio ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor. Gall pobol o bob oedran ddewis astudio cwrs ôl-raddedig a hynny am nifer o resymau: megis diddordeb personol; i roi hwb i’ch gyrfa; i’ch paratoi ar gyfer ymchwil breifat neu academaidd; fel cyfle i gael hyfforddiant proffesiynol; i uwchraddio neu newid sgiliau; i ddatblygu gwybodaeth ddofn neu ymestyn gwybodaeth sydd gennych eisoes.”
Mae’r diwrnod wedi ei gynllunio ar gyfer pobol sydd â diddordeb mewn maes penodol, neu sydd yn ystyried mwy nag un opsiwn. Gall unrhyw un ddod iddo.
Nid yw cefndir academaidd yn hanfodol i gael eich derbyn i astudio ar bob cwrs ôl-radd. Efallai bod gennych brofiad proffesiynol perthnasol, arbenigedd sylweddol heb fod yn y maes academaidd, neu ddiddordeb hamdden a fydd yn eich cymhwyso i gael eich derbyn i un o’r cannoedd o gyrsiau ôl-radd sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor.
Dyma raglen y Diwrnod Agored:
12.00 – 2.00pm: | Cofrestru ac Arddangosfa (Prif Adeilad y Celfyddydau, Neuadd PJ) |
1.30 – 2.00pm: | Cyflwyniad: Astudiaethau Ôl-raddedig ac Ariannu (Prif Adeilad y Celfyddydau, Darlithfa 4) |
1.30 – 2.00pm: | Cyflwyniad i fyfyrwyr rhyngwladol (Adeilad Rathbone) |
2.00 – 4.00pm: | Ymweld â'r adran academaidd y bwriadwch astudio ynddi |
2.30 – 5.00pm: | Teithiau byr o amgylch llety'r Brifysgol (yn cychwyn yn rheolaidd o Neuadd PJ) |
Meddai Stevie Fox, sydd wedi astudio fel myfyrwraig israddedig hŷn ac sydd bellach yn fyfyrwraig ôl-raddedig:
“Nid oeddwn wedi sylweddoli cymaint o hwyl oedd i’w gael. Wrth edrych yn ôl rŵan dwi’n gweld cymaint rwyf wedi dod ymlaen o ran ymchwilio, gwerthuso, a hefyd ysgrifennu. Mae’r rhyddid i ddewis fy mhwnc, y gefnogaeth ddi-feth ac anogaeth fy ngoruchwylwyr wedi cael effaith gadarnhaol ar fy astudiaethau a fy hunan-barch.”
Myfyriwr arall sydd wedi parhau â’i astudiaeth ôl-radd ran-amser yw Marc Collinson. Ar ôl iddo raddio o’r Brifysgol aeth Marc ymlaen i wneud ymchwil ar y Blaid Lafur, mewnlifiad a gwleidyddiaeth hil, 1962-1979 yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg.
Meddai: “Mae gallu astudio’n rhan-amser wedi bod yn brofiad cyffrous ac wedi fy ngalluogi i ddatblygu sgiliau newydd, gan gynnwys ysgrifennu ceisiadau am grantiau, trefnu cynadleddau a chynnal ymchwil mewn amgueddfeydd, archifau a hyd yn oed Tŷ’r Cyffredin!”
Am wybodaeth bellach am y Diwrnod Agored i Ôl-raddedigion, gan gynnwys manylion am y gweithgareddau sy’n digwydd yn yr Adrannau academaidd, cysylltwch â:
Michael Rogerson
Swyddog Marchnata Ôl-radd
+44 (0) 1248 383648
Cofrestrwch am y digwyddiad: https://www.bangor.ac.uk/pgfair/contactus.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mawrth 2016