Dewi yn ennill Medal Ddrama 2014
Llongyfarchiadau mawr i dramodydd profiadol a’r sgriptiwr amlwg, Dewi Wyn Williams, cyn-fyfyriwr Cymraeg a Drama ac enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr. Bydd Dewi yn derbyn Y Fedal Ddrama, er cof am Urien Wiliam, rhoddedig gan ei briod Eiryth a’r plant, Hywel, Sioned a Steffan a £750, o Gronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli. Bydd cyfle hefyd i ddatblygu’r gwaith gyda Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru.
Daeth Dewi i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 13 o ymgeiswyr am ei ddrama, 'La Primera Cena', gan ddefnyddio’r ffugenw ‘Non Bobo Marina’. Y beirniaid eleni oedd Sara Lloyd a Roger Williams, ac wrth draddodi’r feirniadaeth ar ran y ddau ohonynt, dywedodd Roger Williams,
“Dramodydd hyderus sydd wrth waith fan hyn, yn adrodd stori dyn yn cyfarfod â'i dad am y tro cyntaf ers deng mlynedd ar hugain.
“Mae'n strwythuro'r ddeialog gyda chrefft a dychymyg ac yn llwyddo i fachu'r gynulleidfa.”
Mae’r ddrama’n ymdrin â thema gyfarwydd sef Etifeddiaeth a’r berthynas rhwng Natur a Magwraeth, ‘Nature versus Nurture’.
‘Stori tad a mab yw stori pawb.’ Yn y ddrama mae tad a mab yn cyfarfod am y tro cyntaf ers deng mlynedd ar hugain, y tad wedi’i erlyn o’r wlad yn dilyn damwain car angheuol pan fu farw’r fam. Mae amheuaeth gref ynglÅ·n â sut a pham yn union y digwyddodd y ddamwain a phwy oedd yn gyfrifol. Mae’r mab- a oedd yn blentyn yn y car ar y pryd- yn ceisio canfod y gwirionedd.
Mae’r ddrama’n seiliedig ar ddigwyddiad go iawn- un o dramor- pan gafodd gŵr ei gyhuddo o geisio llofruddio’i wraig a’i blentyn trwy yrru ei gar i afon. Fe’i carcharwyd cyn ei ryddhau’n ddiweddarach oherwydd ei amddiffyniad oedd mai’r wraig afaelodd yn y llyw gan achosi’r ddamwain.
Daw teitl y ddrama o’r llun ‘La Primera Cena’ (‘Y Cinio Cyntaf’) gan Dafni Elvira, artist o Buerto Rico yn y Caribi. Parodi o’r ‘Swper Olaf’ gan Leonardo da Vinci ydyw gyda chriw o ferched cyfoes o amgylch y bwrdd yn mwynhau cwmni ei gilydd. Ond yn gynnil yn y cefndir gwelir dynion yn ceisio clustfeinio ar y sgwrs, dim croeso na gwahoddiad iddynt a amgylch y bwrdd. Yn dilyn y ddamwain, roedd hwn yn brofiad cyfarwydd iawn i’r tad...
Cafodd Dewi ei eni ym Mhenysarn, Sir Fón, a’i fagu ar fferm Glanrafon ym mhlwyf Llaneilian.Mae’n fab i’r diweddar actor Glyn Williams (Glyn Pensarn) a’i wraig Kitty.
Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Gynradd Penysarn ac wedyn yn Ysgol Uwchradd Syr Thomas Jones lle’r oedd yn Brif Ddisgybl. Mynychodd Coleg Y Brifysgol ym Mangor gan raddio gydag Anrhydedd mewn Cymraeg a Drama.
Yn 1980, ymunodd á’r BBC fel is-reolwr llawr cyn ei ddyrchafu’n fuan i’r Adran Sgriptiau dan arweiniad Gwenlyn Parry- yn un o’r ‘mwyar duon’ , chwedl Gwenlyn - pob un yn ‘hand-picked’! Bu’n gweithio’n bennaf ar y gyfres ‘Pobol Y Cwm’, cyfnod pan ddatblygodd y gyfres o 32 pennod yr wythnos i 250. Bu yno am 16 mlynedd – gan adael yn Bennaeth Yr Adran Sgriptiau- cyn ymuno ag S4C yn 1996 fel Golygydd ac Ymgynghorydd Sgriptiau. Gadawodd 2 flynedd yn ól ac mae’n bellach yn awdur llawn amser.
I deledu, mae Dewi wedi ysgrifennu nifer fawr o benodau o ‘Bobol Y Cwm’ yn ogystal â dramâu megis ‘Marathon’- y ddrama sengl gyntaf ar S4C- a’r ffilm ‘Lois’. Mae ei waith llwyfan yn cynnwys, ‘Rhyw Ddyn A Rhyw Ddynes’, drama fuddugol Medal Ddrama Yr Urdd yn 1981; y ddrama hir ‘Leni’, a ‘Difa’, drama a oedd yn ail yn y gystadleuaeth hon llynedd, sy’n cael ei chynhyrchu gan Gwmni Bara Caws flwyddyn nesaf.
Mae’n aelod o sawl rheithgor Drama rhyngwladol. Eleni bu ar reithgor yr Emmys yn Efrog Newydd (am y seithfed tro) ac yn gadeirydd rheithgor Gwyl Deledu Banff yng Nghanada. Bu hefyd ar reithgorau Rose d’ Or,Swisdir, Prix Europa yn Berlin a’r Golden Chest ym Mwlgaria.‘Roedd hefyd yn diwtor Sgriptio rhan amser yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd.
Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.
Cynhelir yr Eisteddfod ar y Meysydd Gwyl, Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli tan ddydd Sadwrn 9 Awst Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.org.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Awst 2014