Diabetes UK yn ariannu gwaith ymchwil i’r gennyn sy’n cynhyrchu inswlin ym Mhrifysgol Bangor
Mae Diabetes UK yn ariannu project ymchwil i ennyn arbennig ym Mhrifysgol Bangor. Gallai’r gwaith arwain at ffyrdd newydd pwysig o drin diabetes.
goleuni newydd arno. Y gobaith yw y bydd hyn yn arwain at ddatblygiadau mewn dulliau o drin diabetes.
Gallai gwaith Dr Mulley ddod o hyd i lwybrau genetig newydd ar gyfer rheoli inswlin neu gynhyrchu’r celloedd sy’n creu inswlin. Gellid addasu’r rheiny er mwyn eu defnyddio i drin pobl ac i ddatblygu triniaethau at y dyfodol.
Dywedodd Dr Mulley, o Adran Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor: “Rwy’n ddiolchgar i Diabetes UK am y grant hwn a fydd yn fy ngalluogi i ddatblygu fy ngwaith ymchwil ymhellach.
Meddai Dr Victoria King, Pennaeth Ymchwil Diabetes UK: “Mae Diabetes UK wedi ymrwymo i brojectau ymchwil i ddiabetes gwerth dros £960,000 yng Nghymru. Rydyn ni’n falch o gynnwys cefnogaeth i waith ymchwil Dr Mulley ym Mhrifysgol Bangor yn y cyfanswm hwnnw.”
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2011