Diffodd Popeth Prifysgol Bangor
Fel rhan o ymdrechion Prifysgol Bangor i amlygu a lleihau ei ddefnydd o ynni, bydd y Brifysgol yn ymuno â Prifysgolion ar draws Cymru yn “Diffodd Popeth Cymru” mewn ymarferiad mawr ar nos Wener 21ain o Fawrth.
Bydd y Brifysgol yn ymuno yn yr her i ddiffodd yr holl offer nad ydynt yn hanfodol sydd wedi cael eu gadael ymlaen mewn swyddfeydd cyn y penwythnos (h.y. cyfrifiaduron, argraffwyr, goleuadau, chargers ffôn symudol). Wedyn, bydd y Brifysgol yn cymharu'r defnydd o ynni yn ystod y digwyddiad 'Diffodd Popeth' gyda’r defnydd o ynni ar benwythnos tebyg. Bydd hyn yn dangos i ni yr arbedion go iawn y gellir eu cyflawni gyda dim ond ychydig o newidiadau bach i'r ffordd mae pobl yn gweithio.
Dywedodd Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Datblygu Cynaliadwy ym Mhrifysgol Bangor:
“Bydd y digwyddiad yn ffordd o ymgysylltu a grymuso myfyrwyr a staff mewn gweithredoedd cynaliadwyedd, a chodi proffil materion cynaliadwyedd ar draws y Brifysgol.
Mae cymryd rhan yn y digwyddiad effaith uchel hwn yn eistedd yn dda gyda’n hymrwymiad i ‘Ddod a Cynaliadwyedd yn fyw' a gyda ein henw da fel Prifysgol Gwyrddaf Cymru ac yn un o'r Prifysgolion Gwyrddaf yn y DU. ”
Mae’n rhaid i staff a myfyrwyr sydd eisiau optio allan o’r archwiliad ag adael darn o offer ymlaen
gysylltu gyda Mair Rowlands m.rowlands@bangor.ac.uk cyn 5pm ar ddydd Mawrth 18fed o Fawrth. Bydd arweinydd y tîm yn gyfrifol am y digwyddiad yn sicrhau bod yr offer yn cael ei adael ymlaen.
Digwyddiad Cenedlaethol – Mae Diffodd Popeth Cymru yn cael eu hyrwyddo gan UCM Cymru am y tro cyntaf o dan y faner Byw’n Wyrddach. Datblygodd Prifysgol Southampton y cysyniad ac maent yn gweithio gydag UCM Cymru i sicrhau y bydd Diffodd Popeth Cymru yr un mwyaf yn y DU. Bydd yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2014