Difodd goleuadau ym Mangor
Gan gydweithredu ag Artes Mundi, bydd 14-18NOW, y rhaglen ddiwylliannol ar gyfer Dathliadau Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, yn cyflwyno Traw, gwaith celfyddydol awyr agored o bwys ym Mangor gan Bedwyr Williams, un o brif artistiaid gweledol Cymru, fel rhan o LIGHTS OUT, digwyddiad a gynhelir ar draws y DU ar 4 Awst 2014 i nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Ar 4 Awst 2014, o 10pm tan 11pm, cyflwynir gosodiad fideo a sain Williams, ar raddfa fawr, ar safle Porth Coffa Gogledd Cymru, Bangor, lle ceir enwau mwy na 8,500 o filwyr, morwyr ac awyrenwyr o siroedd Gogledd Cymru, a gwympodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Y Porth Coffa fydd ar ganol y llwyfan o flaen delweddau a deflir oddi ar y Porth hyd at wal enfawr Canolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Prifysgol Bangor sy’n ei wynebu, gan greu cyswllt rhwng aberthau’r gorffennol a gobeithion y dyfodol.
Can ddefnyddio lluniau a gafwyd yn archif Cymru 1914, mae Williams wedi creu dilyniant o ddelweddau o bersonél lleol, yn filwrol ac yn sifil, a brofodd effaith y Rhyfel Byd Cyntaf. Heb gynnwys unrhyw lifrai na chyfeiriadau at reng, mae’r delweddau o wynebau wedi’u tocio yn dadlennu rhywfaint o bersonoliaeth yr unigolion a’u haberth personol mewn rhyfel lle mesurwyd marwolaethau mewn miliynau.
‘Ergyd’ yw ystyr y gair ‘Traw’ yn y cyswllt hwn. Mae trac sain atseiniol, sy’n troi o gylch sŵn tician cloc wedi’i arafu, yn sylfaenol i’r gwaith, a bydd y sŵn i’w deimlo, yn ogystal â’i glywed, ar draws y ddinas.
Wrth roi sylwadau ar y project, dywedodd Bedwyr Williams, “Pan oeddwn yn fyfyriwr celf ifanc, cerddais heibio’r porth coffa ym Mangor lawer o weithiau, a rhaid imi gyfaddef na roddais ryw lawer o feddwl iddo. Ers imi weithio ar y project hwn, ni fyddaf fyth yn gallu cerdded heibio’r lle hwn eto heb feddwl am y bywydau a gollwyd yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.”
Mewn digwyddiad trawiadol sydd i’w gynnal ar draws y DU, mae LIGHTS OUT yn wahoddiad i bawb ddiffodd eu goleuadau o 10pm tan 11pm ar 4 Awst, gan adael un golau neu gannwyll yn unig ymlaen er mwyn rhannu myfyrdodau. Gall pobl gymryd rhan ym mha ffordd bynnag y dewisant, a chyda pha feddyliau bynnag a fo ganddynt ynglŷn â’r union adeg yr ymunodd gwledydd Prydain â’r Rhyfel Byd Cyntaf, ganrif yn union yn ôl. P’un a fyddont yn eu cartrefi neu’n dystion i’r digwyddiadau LIGHTS OUT niferus sydd i’w cynnal o gwmpas y wlad, bydd pobl yn ymuno ar gyfer profiad torfol na fu mo’i debyg erioed.
Daw’r ysbrydoliaeth ar gyfer LIGHTS OUT o sylw enwog a roddwyd ar noswyl dechrau’r rhyfel gan yr Ysgrifennydd Tramor ar y pryd, Syr Edward Grey: “Mae’r lampau’n cael eu diffodd ar draws Ewrop; ni fyddwn yn eu gweld yn goleuo eto yn ystod ein hoes ni.” Cyhoeddodd Prydain ryfel yn erbyn yr Almaen ar 4 Awst 1914, a hynny’n arwain at un o gyfnodau tywyllaf ein hanes.
Disgwylir i filiynau o bobl gymryd rhan, ac mae cannoedd o awdurdodau lleol, adeiladau eiconig, sefydliadau cenedlaethol, yn cynnwys y BBC a’r Lleng Brydeinig Frenhinol, cynghorau plwyf ac addoldai eisoes wedi addo eu cefnogaeth. Bydd tirnodau eiconig, megis Goleuadau Blackpool, Tai’r Senedd, Project Eden, Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth – cangen y Gogledd, a Phont y Tŵr yn diffodd eu goleuadau; mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi lansio ymgyrch i oleuo miliwn o ganhwyllau o gwmpas cofebion rhyfel ar draws y wlad, a bydd cynyrchiadau theatr a draws y DU, yn cynnwys War Horse, yn tywyllu adeg yr alwad i’r llen.
Mae Williams yn un o bedwar artist rhyngwladol blaenllaw a gomisiynwyd gan 14-18NOW, sef y rhaglen ddiwylliannol ar gyfer dathliadau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, i greu gweithiau celfyddydol coffaol cyhoeddus yn Béal Feirste (Belfast), Caeredin, Bangor a Llundain, fel canolbwyntiau ar gyfer LIGHTS OUT ym mhob un o bedair cenedl y DU.
Mae pob comisiwn LIGHTS OUT yn defnyddio dull unigryw o greu ffynhonnell o olau er mwyn dod â phobl at ei gilydd wrth i’r DU goffáu dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ar noson 4 Awst. Bydd yr artist o Mumbai, Nalini Malani, yn cyflwyno tafluniad fideo ar raddfa fawr ar draws y cyfan o fur gorllewinol Oriel Genedlaethol yr Alban yng Nghaeredin, gyda chomisiwn gan Ŵyl Gelf Caeredin; bydd amrywiaeth o grwpiau cymunedol yn Béal Feirste, ar gomisiwn gan Factotum, yn creu gwaith newydd o eiddo’r arlunydd blaenllaw ‘Bob and Roberta Smith’, ar raddfa fawr, gan ddefnyddio miloedd o ganhwyllau. Ar draws Llundain, datgelir project arbennig ar noson 4 Awst.
Mae’r artist Jeremy Deller, sydd wedi ennill Gwobr Turner, wedi creu gwaith celf digidol newydd LIGHTS OUT ar ffurf cymhwysiad y gall unrhyw un ei lawrlwytho. Yn ystod y dyddiau’n arwain at y canmlwyddiant, dangosir ffilm fer newydd bob dydd, yn cyrraedd uchafbwynt am 10pm ar 4 Awst, pryd y datgelir y ffilm olaf.
Ar hyn o bryd, Bedwyr Williams yw’r artist preswyl yn Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi newydd o bwys sy’n cael ei adeiladu gan Brifysgol Bangor, wedi’i dylunio gan benseiri Grimshaw, ac i’w hagor ym Medi eleni. Amcan ei breswyliad yw edrych ar gasgliadau Prifysgol Bangor fel rhan o waith newydd y bydd yn ei gyflwyno yn Pontio pan fydd yn agor yn ddiweddarach eleni.
Meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio, “Mae Pontio, sef Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Prifysgol Bangor sydd ar fin agor, mewn lle delfrydol i gynnal gwaith newydd, amlwg Bedwyr i nodi’r Canmlwyddiant. Mewn bwlch rhwng Porth Coffa’r ddinas ac adeilad eiconig y Brifysgol, mae’r tafluniadau trawiadol ar ochr Pontio yn atgoffâd priodol ac amserol am yr amser sydd wedi mynd heibio ers y Rhyfel Byd Cyntaf.”
Ar gyfer 14-18NOW, mae Williams wedi ehangu ei ymchwil a bu wrthi’n gweithio mewn cysylltiad agos ag archif Cymru1914, sydd wrthi ar hyn o bryd yn gwneud gwaith digideiddio ar raddfa fawr ar ffynonellau gwreiddiol yng nghyswllt y Rhyfel Byd Cyntaf, o’r Llyfrgelloedd, Casgliadau Arbennig ac Archifau Cymru. Mae’r archif ddigidol hon yn tynnu ynghyd ddeunyddiau ffynonellol a oedd gynt yn dameidiog, ac yn aml yn anodd neu’n amhosibl mynd atynt, yn cynnwys papurau newydd, llawysgrifau, ffotograffau, cylchgronau, seiniau wedi’u recordio a chyfweliadau.
Bydd gwahoddiad i’r gymuned leol gymryd rhan yn y project, gyda chyfres o weithdai i gasglu hanesion personol, storïau a chysylltiadau teuluol â’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Meddai Karen MacKinnon, Cyfarwyddwr a Churadur yn Artes Mundi, “Mae’n bleser gan Artes Mundi gyd-gomisiynu Traw gan Bedwyr Williams ar y cyd â 14-18NOW. Bydd y gwaith celf dwysbigol, newydd hwn yn bwrw goleuni ar archifau’r llyfrgelloedd cenedlaethol ac yn cyffwrdd â chymunedau Bangor, gan gysylltu â’r pedwar comisiwn LIGHTS OUT arall ar draws y DU.”
Mae LIGHTS OUT yn ategu’r wylnos yng ngolau cannwyll sydd i’w chynnal yn Abaty Westminster o 10pm tan 11pm ar 4 Awst.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2014