Digwyddiad gwych!
Cyfarfu Hyrwyddwyr Academaidd Menter o gonsortiwm prifysgolion Bangor, Aberystwyth ac Abertawe ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 18 a 19 Mai i rwydweithio, rhannu syniadau a chynllunio’r agenda menter i’r dyfodol. Roedd diwrnod cyntaf y digwyddiad yn cynnwys sesiwn hyfforddi i bawb gan Bio-TRIZ, cwmni ymgynghori o ddinas Bath sydd wedi datblygu dulliau unigryw o ddyfeisio a datrys problemau.
Ar yr ail ddiwrnod, rhannodd pencampwyr academaidd Bangor, sef Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr y Stiwdio Dylunio, Dr James Intriligator, Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Seicoleg, Dr Iestyn Pierce, Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electroneg a Dewi Rowlands, Cyfarwyddwr Cwrs Dylunio Cynnyrch yn yr Ysgol Addysg eu syniadau gyda'u cydweithwyr o brifysgolion Aberystwyth ac Abertawe er mwyn cynllunio gweithgareddau ar y cyd ar draws y consortiwm.
Cafwyd hefyd daith o amgylch y campws, wedi ei threfnu gan Tony Orme, Rheolwr Menter Prifysgol Aberystwyth, yn cynnwys yr unedau creadigol newydd yng Nghanolfan y Celfyddydau, canolfan greadigol arobryn i gwmnïau celfyddydol, asiantaethau datblygu’r celfyddydau, artistiaid a chrefftwyr.
Daeth Erika Dawson, Rheolwr Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru, i’r digwyddiad hefyd.
Peilot project dan arweiniad y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe yw’r project Hyrwyddwyr Menter Academaidd. Datblygwyd y project, a ariannir gan Lywodraeth Cymru, i hybu mentergarwch a nodi cyfleoedd i gefnogi menter trwy ddenu diddordeb staff trwy gyfrwng hyrwyddwyr menter academaidd adrannol. Mae’r project wedi denu diddordeb gan sefydliadau allanol i ddatblygu syniadau ac mae wedi creu cyfleoedd ymchwil i’r hyrwyddwyr menter academaidd.
Dywedodd Andy Goodman, Cyfarwyddwr Stiwdio Dylunio Pontio, ‘mae’r project hyrwyddwyr menter academaidd wedi bod yn sail i ddod ag amrywiol academyddion at ei gilydd i drafod projectau’n ymwneud â menter’. Dywedodd James Intriligator, Uwch-ddarlithydd a Hyrwyddwr Menter Academaidd Seicoleg "mae fy ngwaith fel hyrwyddwr menter academaidd wedi caniatáu i mi fynd ar ôl nifer fawr o wahanol brojectau menter - e.e. Menter trwy Gynllunio, Social Enterprise Accelerator, Flux, etc. sydd wedi bod o fudd mawr i fyfyrwyr o ran gweithio mewn dull amlddisgyblaethol a chael profiad o weithio fel tîm a dysgu sgiliau sy’n ddefnyddiol i gyflogwyr’.
Hoffai’r tîm Byddwch Fentrus ddiolch i bawb a gymerodd ran ac edrychwn ymlaen at y cam nesaf yn y project cyffrous hwn.
I ddysgu mwy am y project hyrwyddwyr menter academaidd, cysylltwch â Lowri Owen neu Ceri Jones yn B-enterprising@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2012