Digwyddiad hanesyddol wrth i Ysgol y Gyfraith Bangor fod y gyntaf yng Nghymru i gynnal achos llys ffug yn y Goruchaf Lys
Llwyddodd myfyrwyr Ysgol y Gyfraith Bangor i greu hanes y mis diwethaf wrth iddynt fod y tîm cyntaf o Ysgol y Gyfraith yng Nghymru i gael eu gwahodd i gynnal achos ffug o flaen y Goruchaf Lys yn Llundain.
Mewn achos llys ffug mae dau bâr o fyfyrwyr yn dadlau achos apêl cyfreithiol dychmygol o flaen 'barnwr' (gan amlaf bydd yn ddarlithydd neu fyfyriwr ôl-radd) gan efelychu achos llys. Mae'n gymorth buddiol wrth astudio am radd yn y gyfraith gan ei fod yn dangos i fyfyrwyr sut gellir defnyddio gwybodaeth gyfreithiol mewn bywyd go iawn ac yn annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau dadansoddi, dehongli a siarad yn gyhoeddus.
Trefnwyd yr achos ffug yn y Goruchaf Lys gan Sarina Worley, Meistres y llys ffug, a Bethany Miller, Llywydd Cymdeithas y Gyfraith i Fyfyrwyr ym Mangor. Pwnc yr achos ffug oedd dadl gyfreithiol ynglŷn â dyn ifanc a ddringodd dros ffens pwll nofio ar noson braf yn yr haf a deifio i mewn i'r pwll nofio ym mhen bas y pwll a chael anafiadau difrifol.
Yn amddiffyn oedd Herbert Farrington a Simon Williams, gyda chefnogaeth ymchwil gan Nicola Pearson a David Gibbon, tra roedd tîm y Ceisydd yn cynnwys Adam Gulliver ac Andrew Galley, a'u hymchwilwyr cyfreithiol oedd Ana-Victoria Dan ac Aaron Clegg. Yn llywyddu ar y fainc oedd darlithydd yn y gyfraith a cyfreithiwr, Gwilym Owen.
"Mae achos ffug yn hynod o boblogaidd ym Mangor ers iddo gael ei gyflwyno gyntaf i'r Ysgol yn 2008, pan gynhaliwyd y gystadleuaeth achos llys ffug Ewropeaidd yma," eglurodd yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Bangor. "Ers hynny, ceir cystadlu brwd mewn nifer o gystadlaethau achosion ffug mewnol, yn cynnwys cystadleuaeth cyfrwng Cymraeg penodol ac un a gynhelir yn enw’r darlithydd Ann McLaren, a helpodd i feithrin achos llys ffug yn yr Ysgol."
Roedd Andrew Galley, 20 oed o Leeds, yn aelod o'r tîm buddugol ac meddai: "Roedd cymryd rhan yng nghystadleuaeth achos llys ffug Ysgol y Gyfraith, Bangor yn hynod o fuddiol a gwerth chweil. Wrth adael i unigolion benderfynu gyda phwy y maent eisiau gweithio, rydych yn gweld pa mor dda y gallwch weithio'n broffesiynol gyda phobl yr ydych yn eu hadnabod yn gymdeithasol ac mewn lleoliad proffesiynol. Roedd yr achos ei hun yn heriol iawn; ar yr olwg gyntaf roedd yn ymddangos yn achos un ochrog ond ar ôl darllen ac ystyried yr holl fanylion roedd yn achos cytbwys iawn. Roedd y profiad o weld a chyflwyno yn y Goruchaf Lys yn un buddiol iawn - roedd yn creu teimlad o ryfeddod a syndod ynom i gyd. Byddwn yn bendant yn hoffi cystadlu eto."
Bydd Ysgol y Gyfraith Bangor yn llwyddo i greu hanes eto ym mis Ebrill 2013 pan fydd yn yr Ysgol y Gyfraith gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan yn y Telders Moot byd-enwog yn yr Hague yn yr Iseldiroedd. Mae tîm wrthi'n paratoi ar hyn o bryd dan arweiniad Dr Evelyne Schmid, gyda chymorth Yvonne McDermott, y ddwy yn ddarlithwyr ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2013