Digwyddiad #ITSFORUS
Ymunwch â Myfyrwyr Rhyngwladol yn Mynd yn Wyrdd a Source to Sea Productions i ddigwyddiad sy'n dathlu beth allwn ni ei wneud i wneud gwahaniaeth amgylcheddol! Yn y digwyddiad #itsforus ceir stondinau, pethau i'w rhannu am ddim, gemau llawn hwyl a dangosiad cyntaf ffilm fer sy'n sôn am y ffordd y gellwch arbed arian a'r blaned!
"Rydym wedi treulio llawer o amser yn siarad am blastig, eitemau a ddefnyddir unwaith, gwastraff a lles pobl a'r blaned. Bwriad #itsforus yw ysbrydoli pobl i newid yn y pethau bychain hynny y gallwn i gyd eu gwneud i sicrhau gwahaniaeth." - Danielle Katz, Cyfarwyddwr Source to Sea Productions.
Dewch draw i gael dillad am ddim neu i roi rhai o'ch hen ddillad i'r cynllun Cyfnewid Dillad a noddir gan Bywyd Campws. Rhowch gynnig ar eich sgiliau ailgylchu yn y Lab Cynaliadwyedd a chlywed am Broject Bwyd y Ddraig Lwglyd gydag Enactus. Cymerwch ran yn y cyfleoedd gwirfoddoli yn UNDEB; mynnwch sgwrs gyda'r grymoedd creadigol tu ôl i Gymdeithas Ffilm Prifysgol Bangor; neu ymunwch â digwyddiadau cymunedol gydag Bangor Di-blastig, Cipio ein Harfordir, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, a Chyngor Gwynedd.
"Mae'n bleser gan Fyfyrwyr Rhyngwladol yn Mynd yn Wyrdd helpu i dynnu ynghyd grŵp amrywiol i ddathlu'r rhai sy'n gwneud ymdrech i sicrhau dyfodol gwell." - Marcel Clusa, Cyfarwyddwr Myfyrwyr Rhyngwladol yn mynd yn Wyrdd. Mae hwn yn broject gan Swyddfa Cefnogaeth Ryngwladol Prifysgol Bangor a Source to Sea Productions; mewn cydweithrediad â Bywyd Campws, Y Lab Cynaliadwyedd, Enactus, Cymdeithas Ffilm Prifysgol Bangor, UNDEB, Bangor Di-blastig, Cipio ein Harfordir, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, a Chyngor Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2018