Digwyddiad LifeStartFest cyntaf yng Nghymru
Cyngor gyrfaoedd, rhwydweithio a pizza i fyfyrwyr yng Nghymru!
Mae Jack Newton newydd raddio, wedi ennill Her LifeStart ac wedi derbyn swydd gyda JCDecaux, yr asiantaeth hysbysebu awyr agored rhyngwladol. Bydd Jack yn un o’r siaradwyr yng Ngŵyl LifeStart cyntaf Cymru ym Mhrifysgol Bangor ar 26 Medi.
Yn ymuno â Jack i ateb cwestiynau fel ‘Beth mae’n ei gymryd i lansio gyrfa lwyddiannus?’ a ‘Sut i ddewis y proffesiwn cywir yn wyneb dewisiadau di-ri?’ y mae siaradwyr rhyngwladol gan gynnwys Katy Rea o asiantaeth Battalion, ym Manceinion, a Monika Kanokova, awdur ‘This Year Will Be Different: the insightful guide to becoming a freelancer’. Bydd eraill hefyd a fydd yn rhannu eu profiadau gyrfaol i roi cymorth i fyfyrwyr oresgyn anawsterau ar gychwyn gyrfa.
Cynhelir y digwyddiad rhwng 2:00pm a 7:00pm, ddydd Mercher, 26 Medi, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, ac mae'r llwyfan ar-lein i fyfyrwyr, LifeStart, gan Virgin, wedi darparu rhaglen unigryw i fyfyrwyr gan ddod â mentoriaid at ei gilydd i helpu myfyrwyr i wneud ffrindiau a chwrdd â phobl y gallent gydweithio â nhw ar brojectau, ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd.
Meddai Lowri Owen, Rheolwr Project Byddwch Fentrus y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd:
“Rydym yn rhoi pwyslais ar roi’r sgiliau a’r offer i’n myfyrwyr gynnal eu gyrfaoedd eu hunain. Buom yn hybu Heriau LifeStart i’n myfyrwyr am y tro cyntaf y llynedd, a chawsom ein plesio’n fawr gyda pha mor dda yr oedd ein myfyrwyr yn ymateb i’r heriau a osodwyd - mae’n rhaid ein bod yn gwneud rhywbeth yn iawn! Dyna pam ein bod yn falch o gael cyflwyno’r digwyddiad arbennig yma i’n myfyrwyr, ac i unrhyw fyfyrwyr eraill yng Nghymru, sydd eisiau cofrestru ar gyfer y digwyddiad.”
Mae’r digwyddiad ar agor i fyfyrwyr ac yn rhad ac am ddim.
Rhagor o wybodaeth: https://www.eventbrite.co.uk/o/studentlifestartcom-16795203178
Dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2018