Mae digwyddiad gafodd ei gynnal er mwyn darganfod sut y gall cynghorau wella eu hymarfer da o ran pwrcasu wedi derbyn adborth bositif gan fusnesau lleol, llywodraeth leol ac academyddion.
Yn ystod y digwyddiad, gafodd ei drefnu ar y cyd gan Gyngor Sir Ynys Môn a Sefydliad Ar Gyfer Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor, trafodwyd sut y gall cynghorau ddefnyddio pwrcasu er mwyn cynnig gwasanaethau mwy effeithlon a chynnig cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig. Daeth dros 70 o bobl i’r digwyddiad gan gynnwys swyddogion caffael, busnesau, cyflenwyr, arbenigwyr cyfreithiol a myfyrwyr.
Roedd y siaradwyr ar y noson yn cynnwys Yr Athro Gustavo Piga, Athro mewn Economeg, Adran Fusnes, Prifysgol Rhufain Tor Vergata, fu’n trafod pwrcasu yn y sector cyhoeddus a’r berthynas rhwng sefydliadau cyhoeddus a busnesau bach a chanolig o safbwynt Ewropeaidd ac economeg.
Arwyddodd Y Cyng Bryan Owen, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn a’r Athro Dermot Cahill, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ar Gyfer Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael Prifysgol Bangor, Gofnod o Ddealltwriaeth yn y digwyddiad yn cadarnhau y byddai’r sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd dros y ddwy flynedd nesaf i adolygu a gwella’r broses pwrcasu ar draws y Cyngor.
Un aelod o’r gynulleidfa oedd y dyn busnes lleol Andy Basham, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni gwasanaethau electroneg Owen and Palmer Ltd. Meddai, “Fe gefais fy siomi ar yr ochr orau gan y digwyddiad yma. Roedd yn chwa o awyr iach i deimlo fod rhywun yn gwrando ar fusnesau bach a chanolig ac i weld Cyngor Sir Ynys Môn yn cymryd cam bositif o ran pwrcasu, gan fod 50% o fy staff yn byw ar yr ynys. Roedd y siaradwyr yn rhagorol, ac rwy’n mawr obeithio y bydd y cyngor yn parhau i gynnig digwyddiadau fel hyn yn y dyfodol.”
Ychwanegodd Yr Athro Dermot Cahill, “Mewn cyfnod o lymder ariannol, mae’n angenrheidiol fod cynghorau fel Ynys Môn yn cymryd y cyfle i ddod a’u pwrcasu ymlaen i gymharu gyda’r ymarfer da gorau yn Ewrop fel bod y ddau amcan o ymdopi gyda llai wrth hybu adfywiad economaidd yn cael eu bodloni.
“Roedd presenoldeb arweinwyr gwleidyddol Cyngor Sir Ynys Môn a’r tîm arweinyddiaeth strategol yn dangos fod y cyngor yn cydnabod yr angen i weithio gyda’r arbenigedd gorau sydd ar eu stepen drws er mwyn darparu gwasanaeth pwrcasu sy’n addas ar gyfer y Cyngor a’i gyflenwyr. Mae’r Cyngor yn ymwybodol fod angen i staff a chyflenwyr gael hyfforddiant pellach cyn medru gwneud y gwelliannau hyn. Bydd ein partneriaeth yn datblygu cylch pwrcasu yma mewn ffordd sydd o fudd i bawb sy’n rhan ohono.”
“Mae’n glir ar draws Gogledd Cymru fod rôl cynghorau lleol yr economi rhanbarthol yn anferth, ac felly mae angen i gynghorau sylweddoli fod arferion pwrcasu sy’n agored i fusnesau bach a chanolig yn bwysig o ran cyflawni amcanion strategol, cymdeithasol ac economeg y rhanbarth. Rydym yn cynnig arbenigedd yn ein sefydliad, a gwybodaeth o’r prosiect ‘Ennill mewn Tendro’ er mwyn helpu Ynys Môn i drawsnewid y broses pwrcasu i gyflenwyr. Edrychwn ymlaen at ddatblygu perthynas ffrwythlon, a phartneriaeth sydd â’r potensial i greu deilliannau hirdymor.”
Caiff projectau Sefydliad Ar Gyfer Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael ac "Enninll wrth Dendro" ei ran ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Raglen Iwerddon Cymru (INTERREG 4A).
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2012