DIGWYDDIAD WEDI EI GANSLO: A ydych wedi penderfynu ar sut y byddwch yn pleidleisio yn y refferendwm eto?
Yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd yn Ngorllewin Swydd Efrog ddoe a'r ffaith fod yr ymgyrchoedd dros Aros a thros Adael wedi gohirio eu gweithgareddau am y tro, mae'r ddadl a oedd wedi ei threfnu ar y cyd ag Ysgol y Gyfraith ar gyfer heno, nos Wener 17 Mehefin, wedi ei chanslo fel arwydd o barch at Jo Cox AS.
A ydych wedi penderfynu ar sut y byddwch yn pleidleisio yn y refferendwm? Wedi penderfynu neu beidio, efallai y bydd gennych ddiddordeb gwrando ar ddadleuon o blaid ac yn erbyn aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Caerdydd, yn trefnu trafodaeth gyhoeddus ar y Refferendwm Ewropeaidd ddydd Gwener Mehefin 17 am 6.00.
Cynhelir y digwyddiad yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad Prifysgol Bangor ar Ffordd y Coleg, Bangor.
Yn ôl Dr Mark Hyland, o Ysgol y Gyfraith Bangor, gellir dadlau mai'r Refferendwm Ewropeaidd yw'r penderfyniad mwyaf i wynebu pobl Prydain mewn cenhedlaeth.
Meddai:
“Mae’r UE yn gysyniad cymhleth gyda goblygiadau cyfreithiol, economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol i bob un o’i 508 mil o ddinasyddion.
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn cydnabod pwysigrwydd y refferendwm ac yn credu ei fod yn bwysig cynnal trafodaeth ddeallus a chytbwys arni. Mae’r Brifysgol yn cefnogi cynnal trafodaeth deg ac agored er mwyn galluogi’r gymuned leol i ymgysylltu â siaradwyr o ddwy ochr y drafodaeth ynghylch y refferendwm.
Mae fformat tri phanel y digwyddiad yn adlewyrchu themâu allweddol sydd yn ymddangos yn fwyaf aml yn y drafodaeth ynghylch y refferendwm a dylai’r themâu yma fod o ddiddordeb i ‘r rhan fwyaf o bobl.”
Bydd y tri phanel yn canolbwyntio ar effaith parhau’n aelod neu adael yr UE ar: Swyddi a’r Economi, Cymdeithas a’r Gyfraith ac y Deyrnas Unedig a Chysylltiadau Rhyngwladol. Bydd gwleidyddion, pobl busnes, ysgolheigion ac eraill ar y paneli, gan gynrychioli’r ymgyrchoedd dros barhau’n aelodau o’r UE a’r un dros adael.
Bydd pob trafodaeth yn cynnwys sesiwn holi ac ateb, gan roi cyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau ger bron y siaradwyr gwadd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y digwyddiad, cysylltwch â Dr Mark Hyland, Ysgol y Gyfraith Bangor: m.hyland@bangor.ac.uk
Mae’r digwyddiad yn agored i bawb - gofynnir i’r rhai sydd â diddordeb mewn mynychu’r digwyddiad gofrestru o flaen llaw gyda Eventbrite.
Mae’n rhaid cofrestru o flaen llaw.
Ar y noson cewch drydar eich barn drwy ddefnyddio’r hashnod #EURefCymru
Facebook: https://www.facebook.com/events/892047117584806/
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2016