Dillad y Super Furries yn rhan o gasgliad anferth
Mae gwisgoedd arbennig sy’n perthyn i un o fandiau enwocaf Cymru wedi eu rhoi ar fenthyg i Archif Pop Prifysgol Bangor.
Mae'r gwisgoedd a cafodd eu defnyddio gan y Super Furry Animals yn y fideo Golden Retriever ymhlith pentwr o wrthrychau sydd wedi ei roi ar fenthyg tymor hir i’r Brifysgol gan y canwr Gruff Rhys.
Mae hwnnw hefyd yn cynnwys gwisgoedd llwyfan a phosteri gigs ac yn ychwanegu at yr hyn sydd bellach yn gasgliad anferth am y byd pop Cymraeg.
“Cafodd yr archif ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl er mwyn casglu pob math o eitemau yn ymwneud â cherddoriaeth bop iaith-Gymraeg o'r 40au hyd at y diwrnod presennol,” meddai Dr Craig Owen Jones o’r Ysgol Cerddoriaeth.
“Rydym yn hapus iawn bod Gruff a'r band wedi cytuno i gyfrannu. Mae'r archif yn cynnwys cryn dipyn o eitemau sydd yn berthyn i gerdd bop o'r 60au a'r 70au, ond mae'n bwysig i ni ddiogelu pob rhan o'n hetifeddiaeth gerddorol - gan gynnwys y pethau sydd yn digwydd yn y sin roc Gymraeg heddiw.
"Erbyn hyn mae'n cynnwys miloedd o eitemau, gan gynnwys posteri gan fandiau megis Y Blew a'r Trwynau Coch; cylchgronau megis Asbri, Sgrech, a Sothach; a chyfraniadau amrywiol gan artistiaid a labeli megis Brigyn, Ectogram, Ankst, Gorky's Zygotic Mynci, ac eraill. Eitem ddiddorol yw’r byrddau geiriau caneuon yr oedd Dafydd Iwan yn eu defnyddio ar lwyfan..
“Ar hyn o bryd rydym yn gwneud cyfweliadau fideo gyda cherddorion a phobl sy'n gysylltiedig â'r byd pop Cymraeg. Y bwriad yw storio'r cyfweliadau yma yn yr archif er mwyn creu casgliad unigryw i ymchwilwyr y dyfodol.”
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2010