Dilyn ôl traed y bardd Gwyn Thomas: Gŵr Geiriau
Mae Gwyn Thomas yn fwy na bardd. Mae'n ysgolhaig, yn llenor, yn arbenigwr ar y Mabinogi, yn sgriptiwr ffilmiau, yn awdur toreithiog ar gyfer pob oed, yn ŵr - tad - a thaid, yn ffrind, yn Gymro, yn hogyn o Flaenau Ffestiniog, ac yn ŵr hynaws.
Bydd S4C yn cael golwg o'r newydd ar y gŵr arbennig hwn nos Fawrth, 1 Mawrth, yn Gwyn Thomas: Gŵr Geiriau. Ac ar ddiwrnod ein nawddsant, cawn ddathlu gyrfa dyn sydd wedi cyfrannu cymaint i ddiwylliant Cymru, a dilyn Gwyn Thomas wrth iddo holi o le mae'r awen a'r ysbrydoliaeth i greu yn dod.
Bydd yn edrych ar ei waith ei hun, ac yn trafod y broses o greu gyda'r cerflunydd John Meirion Morris a'r canwr Gai Toms, yr artist Gareth Parry a'r cyfansoddwr Owain Llwyd. Trwy gyfrwng y sgyrsiau difyr yma cawn olwg o'r newydd ar waith yr artistiaid yma, ac ar yrfa Gwyn ei hun.
"Mae 'na amryw o betha' sy'n fy ysgogi i ysgrifennu; gweld rhywbeth ar y ffordd, teledu, 'sbïo ar bobl o 'nghwmpas, neu lefydd," meddai Gwyn Thomas, sy'n 79 oed ac yn byw ym Mangor.
Ond er ei fod yn berson cyhoeddus ar un llaw, mae hefyd yn berson hynod wylaidd, a ddim mor hoff â hynny o fod o flaen y camera. Ar y rhaglen bydd ei daith yn cychwyn ym Mlaenau Ffestiniog, lle cafodd ei fagu, a lle sy'n agos iawn at ei galon hyd heddiw.
"Roedd hi'n brofiad brawychus ar un olwg. Dydi eistedd o flaen camera ddim yn brofiad dymunol, ond roedd yr hogiau oedd yn ffilmio a chynhyrchu yn ddymunol ac fe wnaethon nhw wneud i mi deimlo'n gyfforddus," meddai Gwyn, gafodd ei eni yn Nhanygrisiau yn 1936.
"Yn Gwyn Thomas: Gŵr Geiriau byddwn yn ymchwilio i amryw o bethau, ond dydi hi ddim yn rhaglen hunangofiannol. Byddwn yn dilyn y pethau dwi wedi eu cyfansoddi. Dwi'n dychwelyd i Flaenau yn weddol aml, ond mae 'na deimlad gwahanol iawn hyd 'lle yn ddiweddar, mae 'na fwy o Saesneg i'w chlywed yno rŵan, ond wedi dweud hynny mae o'n dal yn gadarnle. Mae pobl fel Gai Toms, yn cadw'r Gymraeg i fynd. Mae'r lle yn llawn capeli, ond 'chydig iawn iawn ohonyn nhw'n sy'n agored, ond mae'r capel lle bûm yn addoli – Carmel, Tanygrisiau - yn dal i fod ar agor."
Bu Gwyn yn Athro'r Gymraeg, ac yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor am ddegawdau, gan ysbrydoli miloedd o fyfyrwyr. Cawn ymweld â'r Brifysgol sydd wedi newid cryn dipyn ers ei benodi'n ddarlithydd yn 1961. Yn ôl Gwyn, "Mae o wedi newid gryn dipyn, ac mae'r Brifysgol wedi mynd yn sylweddol fwy. Mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth a newid holl awyrgylch y lle. Pan oeddwn i'n dechrau doedd y lle ddim yn fawr, a ro'n i'n 'nabod pawb."
Yn ardal Blaenau Ffestiniog, ac yn ninas Bangor y mae Gwyn wedi treulio y rhan fwyaf o'i oes - ar wahân i gyfnod yn astudio yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen - ond mae ei orwelion llenyddol yn rhai eang a llydan iawn. Torrodd dir newydd gyda'i farddoniaeth a'i waith academaidd, ac mae'r ddau'n medru bod yn gymorth i'w gilydd meddai, "Mae cael dychymyg yn bwysig mewn gwaith ymchwil. Cymrwch chi'r Mabinogi, mae'n llawn dychymyg."
Yn ei dre' enedigol mae 'na gofgolofn yno â geiriau Gwyn Thomas wedi ei naddu arni, "O leia'," meddai Gwyn "yn y dyfodol os nad oes neb yn darllen fy mhethau i, maen nhw wedi eu cadw ar gofgolofnau."
Ond does dim peryg y bydd y darllenwyr yn diflannu. Mae Gwyn Thomas wedi ysbrydoli cenedlaethau ac yn parhau i wneud hynny gyda'i eiriau. Gwyliwch Gwyn Thomas: Gŵr Geiriau i ddilyn ôl troed yr athrylith yma, a dathlu ei gyfraniad i'n diwylliant ni fel Cymry.
Gwyn Thomas: Gŵr Geiriau
Nos Fawrth 1 Mawrth 9.30, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.cymru
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C
Dyddiad cyhoeddi: 29 Chwefror 2016