Dim ond awr o ryngweithio cymdeithasol bob wythnos yn gwella gofal dementia
Mae cael dim ond awr yr wythnos yn ychwanegol o ryngweithio cymdeithasol i bobl gyda dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal yn gwella ansawdd bywyd, pan gyfunir hynny â gofal personol.
Cyfrannodd Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor at arbrawf ar lefel eang a arweiniwyd gan Brifysgol Exeter, King’s College, Llundain a'r Oxford Health NHS Foundation Trust. Daeth i'r amlwg bod y dull gweithredu hwn hefyd yn arbed arian.
Mae ymchwil flaenorol wedi darganfod bod preswylwyr yn cael cyn lleied â dau funud o ryngweithio cymdeithasol bob dydd mewn llawer o gartrefi gofal.
Fe wnaeth yr ymchwil newydd wella sgiliau staff allweddol mewn cartrefi gofal i ddarparu gofal yn canolbwyntio ar yr unigolion y maent yn gyfrifol amdanynt. Cyllidwyd yr ymchwil gan y National Institute of Health Research a chyhoeddwyd y darganfyddiadau yn y cyfnodolyn PLOS Medicine. Roedd yn cynnwys pethau syml fel siarad â phreswylwyr am eu ddiddordebau a'u cynnwys mewn penderfyniadau'n ymwneud â'u gofal eu hunain.
Wrth gyfuno hyn â dim ond awr yr wythnos o ryngweithio cymdeithasol, fe wnaeth y rhaglen wella ansawdd bywyd a lleihau cynnwrf ac ymddygiad ymosodol mewn pobl â dementia.
Meddai'r Athro Clive Ballard, o Ysgol Feddygol Prifysgol Exeter, a arweiniodd yr ymchwil: "Tra bo llawer o gartrefi gofal yn rhagorol, mae safonau'n amrywio'n fawr iawn o hyd. Fe wnaethom ganfod o'r blaen mai dim ond dau funud y dydd ar gyfartaledd o ryngweithio cymdeithasol yr oedd pobl gyda dementia yn ei gael. Nid yw'n syndod bod hynny'n cael effaith ar ansawdd bywyd ac ymddygiad cynhyrfus.
Roedd y treial yn cynnwys dros 800 o bobl â dementia mewn 69 o gartrefi gofal yn ne Llundain, gogledd Llundain a Swydd Buckingham. Hyfforddwyd dau 'hyrwyddwr staff gofal' ym mhob cartref yn ystod pedair sesiwn undydd i roi gofal mwy personol ei natur a gweithgareddau cymdeithasol penodol. Mae'r dull hwn hefyd yn arbed arian o'i gymharu â gofal safonol, sy'n bwysig iawn. Mae'r ymchwilwyr yn dweud mai'r her fawr nesaf yw cyflwyno'r rhaglen i'r 28,000 cartref gofal yn y Deyrnas Unedig er lles bywydau'r 300,000 o bobl â dementia sy'n byw yn y cartrefi hynny.
Meddai Jane Fossey, o'r Oxford Health NHS Foundation Trust: "Mae defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn golygu dod i adnabod y preswylwyr fel unigolion - dod i wybod am eu diddordebau a'u hoffterau - ac adlewyrchu hynny ym mhob agwedd ar ofalu amdanynt. Gall wella bywydau'r bobl eu hunain a gall roi boddhad i ofalwyr hefyd. Rydym wedi dangos bod y dull hwn yn lleihau anniddigrwydd ac yn arbed arian hefyd. Gallai darparu'r hyfforddiant yn genedlaethol fod o fudd i lawer o bobl eraill."
Y canlyniadau yw canfyddiadau'r treial "Improving Wellbeing and Health for People with Dementia" (WHELD), yr hap-dreial rheoledig mwyaf hyd yn hyn y tu allan i'r diwydiant ffarmacolegol ar bobl â dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal.
Meddai Dr Doug Brown, Cyfarwyddwr Ymchwil yng Nghymdeithas Alzheimer: "Mae dementia ar 70% o bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, felly mae'n hanfodol bod staff wedi cael yr hyfforddiant iawn i roi gofal dementia o ansawdd da.
"Mae dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cymryd i ystyriaeth nodweddion, galluoedd, diddordebau, hoffterau ac anghenion. Mae'r astudiaeth hon yn dangos y gall hyfforddiant i ddarparu'r math hwn o ofal, gweithgareddau a rhyngweithio cymdeithasol i unigolion gael effaith sylweddol ar les pobl sy'n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal. Mae'n dangos hefyd y gall y math hwn o ofal effeithiol leihau costau, rhywbeth y mae ar y system gofal cymdeithasol ei wir angen.
"Mae Cymdeithas Alzheimer wedi ymrwymo i wella gofal dementia drwy ymchwil. Mae hynny'n golygu rhoi cynlluniau fel hwn ar waith, a chyllido ymchwil bellach i wella ansawdd bywyd i bobl â dementia yn eu cartrefi eu hunain, mewn cartrefi gofal ac ysbytai."
Roedd y project yn cynnwys cydweithio â Choleg Prifysgol Llundain, y London School of Economics, prifysgolion Hull, Nottingham a Bangor, a'r Gymdeithas Alzheimer.
Meddai'r Athro Bob Woods o’r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor, a gyfrannodd at ddatblygu'r ymyriad a'i werthuso, "Yng Nghymru mae pryderon yn parhau i gael eu lleisio ynghylch gorddefnyddio cyffuriau gwrth-seicotig i leihau ymddygiad cynhyrfus mewn pobl â dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal. Mae'r astudiaeth hon yn dangos yn glir bod yna ddewis arall fforddiadwy. Dylem fod yn anelu at hyd yn oed fwy nag awr yr wythnos o weithgareddau cymdeithasol penodol ar gyfer preswylwyr â dementia yn ein cartrefi gofal."
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2018