Disgyblion yn cael eu difyrru mewn Gŵyl Cemeg ymarferol
Cemegwyr ifanc o ysgol uwchradd Bishop Heber yn swydd Gaer enillodd y wobr gyntaf yn y Salters' Festival of Chemistry, a gynhaliwyd yn Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor yn ddiweddar.
Roedd timau o bedwar o ddisgyblion rhwng 11-13 oed o wyth ysgol yn rhanbarth gogledd Cymru wedi mwynhau diwrnod hwyliog a diddorol gyda’r cyfle i ennill gwobrau i’w hysgol. Daeth Ysgol Glan Clwyd yn ail gydag Ysgol Tryfan yn dod yn drydydd yn y gystadleuaeth flynyddol.
Yn ystod y bore roedd y timau wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd ymarferol cystadleuol - The Salters’ Challenge: ‘Who is the Prime Suspect?’ lle roeddent yn defnyddio eu sgiliau cemeg dadansoddol. Yn y prynhawn, roeddent yn cystadlu yn yr 'University Challenge'’. Gweithgaredd ymarferol a ddewiswyd gan y brifysgol oedd hwn, lle roedd angen i’r disgyblion greu cyfres o liwiau paent gan ddefnyddio asidau, basau a dangosydd cyffredinol. I ddilyn hyn cafwyd darlith gemeg ‘Chemistry in the 3rd Dimension’. Daeth y diwrnod i ben gyda chyflwyno gwobrau, ac fe gafodd pawb wobr unigol a thystysgrif, a chafodd y timau buddugol wobrwyon i’w hysgolion.
Meddai Delwen de Jong, cydgysylltydd addysg RSC ym Mhrifysgol Bangor: "Mae Gŵyl Gemeg Salters' yn gyfle i’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr roi cynnig ar gemeg archwiliadol mewn labordy. Ein nod yw ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a chemegwyr. Rydym yn gobeithio bod y cyfle i wneud gwyddoniaeth ymarferol, cyfarfod â staff a'n myfyrwyr presennol, a threulio'r diwrnod yn y labordy, wedi rhoi cipolwg ar fywyd fel cemegydd iddynt."
Dywedodd Miss K Jones, athrawes cemeg yn ysgol uwchradd Bishop Heber: "Cafodd ein disgyblion amser gwych yn yr Ŵyl ac maent wedi mwynhau cymhwyso eu gwybodaeth gemeg at sefyllfa yn y byd go iawn. Fe wnaeth eu hymweliad â Phrifysgol Bangor eu hysbrydoli."
Mae’r Salters' Chemistry Festivals yn fenter gan y Salters’ Institute, a’i nod yw hyrwyddo gwerthfawrogi cemeg a gwyddorau cysylltiedig ymhlith pobl ifanc. Mae’r ŵyl ym Mhrifysgol Bangor yn un o gyfres o 53 o ddigwyddiadau a gynhelir mewn prifysgolion ledled y DU a Gweriniaeth Iwerddon rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2017.
Mae’r sefydliad yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth gyda’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol unwaith eto eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2017