Disgyblion yn cael eu gwobrwyo am gymryd rhan mewn project Cymru gyfan
Daeth dros 150 o ddisgyblion o wyth ysgol yng ngogledd Cymru i Brifysgol Bangor i ddathlu trydedd flwyddyn lwyddiannus y project Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern. Nod y project hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'u cynllun Dyfodol Byd-eang, yw cynyddu nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion ledled Cymru. Yr ysgolion a oedd yn bresennol oedd Tryfan, Emrys ap Iwan, Y Rhyl, Friars, Dyffryn Ogwen, Argoed, Caergybi a Glan-y-Môr.
Cynhaliwyd y seremoni gan Lucy Jenkins, cydlynydd cenedlaethol y project, a Rubén Chapela-Orri, yr arweinydd ym Mhrifysgol Bangor.
Dywedodd Lucy Jenkins "Roedd hi'n bleser cael croesawu cynifer o ysgolion i Brifysgol Bangor i ddathlu eu llwyddiant. Mae disgyblion, athrawon a mentoriaid fel ei gilydd wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod y Project Mentora Ieithoedd Tramor Modern yn llwyddo, a fedra i ddim diolch digon i bawb am eu brwdfrydedd! Dyma ddiwedd addas iawn i flwyddyn wych o ran mentora iaith! "
Dywedodd Dr Anna Saunders, Pennaeth yr Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern ym Mhrifysgol Bangor, "Rydyn ni'n falch iawn ym Mangor o'n myfyrwyr sy'n fentoriaid a'r holl waith y maen nhw wedi ei wneud gydag ysgolion i greu cenhedlaeth newydd o ieithyddion brwd. Roedd yna gyffro go iawn yn y seremoni wobrwyo, ac roedd hi'n hyfryd gweld y berthynas sydd wedi datblygu rhwng y mentoriaid a'u hysgolion."
Dywedodd Amanda Creevy, Ymarferydd Arweiniol TGAU Ieithoedd Tramor Modern GwE "Roedd hi'n wych gweld cynifer o bobl ifanc yn elwa o'r Project Ieithoedd Tramor Modern sy'n dangos y cydweithio sy'n digwydd rhwng Prifysgol Bangor ac ysgolion ar draws rhanbarth GwE."
Cymerodd y disgyblion sy'n mynychu'r seremoni ran mewn helfa drysor gyffrous o amgylch y brifysgol, a chafwyd cyfle hefyd i gael sesiwn blasu mewn Galiseg, Mandarin neu Iaith Arwyddion.
Disgyblion Ysgolion Argoed yn dilyn sessiwn Galseg gyda Iria Aboi-Ferradas.Dywedodd Julie Kelsall, Arweinydd y Cwricwlwm Ieithoedd Tramor Modern yn Ysgol Uwchradd Argoed: "Fe gafodd ein disgyblion amser wrth eu boddau. Fe wnaethon nhw fwynhau'n arbennig y wers iaith Galiseg a chael crwydro o amgylch Prifysgol Bangor gyda'u mentor Liam, a wnaeth waith ardderchog. Mae gweithgareddau fel hyn yn dod ag ieithoedd yn fyw i ddisgyblion yng Nghymru ac yn eu galluogi nhw i edrych ar y byd o safbwynt newydd."
Mae Mentoriaid Prifysgol Bangor yn fyfyrwyr o'r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern sydd wedi'u hyfforddi'n llawn ac sydd wedi'u cysylltu gydag ysgolion yng ngogledd Cymru trwy gydol y flwyddyn. Dywedodd Emily Carder, myfyriwr sy'n fentor:
"Mae'r cynllun mentora wedi rhoi profiad i mi o'r proffesiwn addysgu na fyddai fel arall ddim ond yn freuddwyd yn y cyfnod yma yn fy mywyd. Roedd cael y cyfle i sefyll o flaen grŵp o ddisgyblion mor ddawnus yn annibynnol a chael cyflwyno gwersi yr oeddwn i wedi'u cynllunio yn werth chweil."
Dywedodd Hannah Jones, myfyriwr sy'n fentor: "Roedd hi'n wych gweld y disgyblion eto ac roedd yn rhyfeddol cael gweld y cynnydd y maen nhw wedi ei wneud! Roedd hefyd yn dda gweld yr athrawon, hebddyn nhw ni fyddai'r project wedi bod mor llwyddiannus."
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2018