Disgyblion yn ‘Codi’r To’ wrth ymweld â’r Senedd
Yn ddiweddar, bu disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Maesincla, Caernarfon a disgyblion Blwyddyn 5 Ysgol Glancegin, Bangor yn ‘codi’r to’ yn ninas Caerdydd gyda pherfformiad cerddorol arbennig yng nghyntedd y Senedd.
Mae’r disgyblion wedi derbyn hyfforddiant cerddorol gan diwtoriaid Codi’r To, project adfywio cymunedol sydd wedi’i seilio ar raglenni byd enwog El Sistema. Yn rhan o Sistema Cymru, mae Codi’r To yn darparu hyfforddiant bywiog a blaengar i blant sy’n hanu o ardaloedd difreintiedig ac ers 2013, wedi bod yn gweithio gydag ysgolion cynradd yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf ym Mangor a Chaernarfon.
Yn dilyn taith drwy adeilad y Senedd gan y sawl a estynnodd wahoddiad iddynt, Yr Arglwydd Elis-Thomas, AS Dwyfor a Meirionnydd a Changhellor Prifysgol Bangor, aeth y disgyblion ati i osod eu hofferynnau yng nghyntedd yr adeilad ar gyfer y perfformiad. Roedd yn berfformiad hanner awr a bu’n gyfle gwych i’r disgyblion arddangos eu doniau newydd yn dilyn yr hyfforddiant dwys gan Codi’r To. Mae’n hyfforddiant sydd wedi creu cerddorfa fedrus o blith plant nad oeddent, yn amlach na pheidio, ag unrhyw brofiad o afael mewn offerynau, heb sôn am eu chwarae a’u defnyddio i greu rhaglen amrywiol o ddarnau cerddorol.
Yn cyd-deithio â’r disgyblion a’u hathrawon oedd Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro Jerry Hunter, a Phennaeth Canolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol, Delyth Murphy. Mae Prifysgol Bangor wedi buddsoddi yng ngwaith Codi’r To drwy sicrhau arbenigeddau staff academaidd sydd wedi bod yn cynnal ymchwil ansoddol ar effeithiolrwydd y project ochr yn ochr â’r hyfforddiant cerddorol. Mae’r gwaith ymchwil ar fin cael ei gwblhau a bydd y canfyddiadau yn cael eu cyhoeddi yn y man.
Meddai’r Athro Hunter: ‘Fel sefydliad sydd â thros dri-chwarter o’i ymchwil wedi’i ddyfarfnu fel bod o safon rhyngwladol, rydym yn falch o allu rhoi rhai o’r arbenigeddau hynny ar waith er budd projectau cymunedol haeddiannol yn yr ardal. Nod Codi’r To yw darparu newid gwirioneddol ym mywydau plant sy’n byw yn ein hardaloedd mwyaf difreintedig. Fy ngobaith i yw y bydd, gydag ymchwil Prifysgol Bangor y tu cefn iddo, yn llwyddo i gyrraedd mwy o blant mewn mwy o ardaloedd a chael effaith pellgyrhaeddol ar eu bywydau.’
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2015