Disgyblion yn derbyn gwobrau Ieithoedd Modern
Bu tua 150 o ddisgyblion 13-14 oed yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar i dderbyn gwobrau ar ôl cymryd rhan yn y Cynllun Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern, sy'n dangos i ddisgyblion ysgol pa mor fuddiol yw astudio ieithoedd tramor, cyn iddynt wneud eu dewisiadau TGAU.
Mae’r Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru (Gwe), Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Bangor, Sefydliad Confucius Bangor, y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru a Chymdeithas y Byddar Gogledd Cymru wedi cyflwyno cyfres o areithiau ysgogol a sesiynau blasu Mandarin, Galisieg ac Iaith Arwyddion.
Lansiwyd y Cynllun yn 2015 gan Lywodraeth Cymru, i fynd i'r afael â'r 'dirywiad difrifol' yn nifer y disgyblion ysgol yng Nghymru sy'n astudio ieithoedd tramor modern. Mae'r cynllun wedi tyfu mewn poblogrwydd gyda chyfanswm o un ar ddeg o ysgolion yng ngogledd Cymru (Caergybi, Dyffryn Ogwen, Y Rhyl, Tryfan, Syr Thomas Jones, David Hughes, Emrys ap Iwan, Ysgol Santes Ffraid, Argoed, Friars, y Creuddyn) yn cymryd rhan.
Caiff gweithgareddau trwy gyfrwng yr ieithoedd modern eu trefnu a'u darparu gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor, sydd wedi cael eu hyfforddi i fod yn fentoriaid ac maent yn gweithio gyda disgyblion ym mhob ysgol yn cynnal gweithgareddau wythnosol mewn grwpiau bach gyda'r plant.
Meddai Maisie Prior, un o'r mentoriaid myfyrwyr o Brifysgol Bangor am ei phrofiad yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda:
"Mae'r cynllun wedi bod yn hynod o werth chweil, nid yn unig o ran gallu rhannu fy mhrofiadau gyda'r disgyblion, ond hefyd eu gweld yn dechrau edrych ar bethau’n wahanol. Mae fy sesiynau wedi bod yn llawn o ddisgyblion yn dweud pethau fel: "Doeddwn i ddim yn gwybod eich bod angen ieithoedd ar gyfer swyddi." Rwyf wrth fy modd gyda’r project, ac mae 15 o fy myfyrwyr wedi penderfynu parhau â'r ITM ar lefel TGAU! Y nifer uchaf erioed mae’r ysgol wedi ei cael!"
Dywedodd Emma Green, Pennaeth Ieithoedd yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda:
"Mae Maisie wedi bod yn ffantastig, mae'r myfyrwyr yma wedi caru ei sesiynau. Mae hi wedi gweithio'n gwbl annibynnol ac wedi gwneud ymdrech gwirioneddol i adeiladu perthynas gyda'r myfyrwyr.
Dywedodd Dr Jonathan Ervine, Pennaeth Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor:
"Rwyf wrth fy modd yn gweld sut mae'r project mentora wedi ein galluogi i weithio gydag ysgolion lleol i roi hwb a chreu diddordeb mewn ieithoedd tramor. Mae'n wych i glywed am frwdfrydedd y mentoriaid yn ogystal â'r disgyblion a’r athrawon y maent wedi bod yn gweithio gyda hwy. "
Mae'r disgyblion sy’n rhan o'r cynllun wedi cael sesiynau gyda'u mentoriaid israddedig, gyda’r bwriad o dynnu eu sylw at fanteision dysgu ieithoedd modern a'r cyfleoedd gyrfa a ddaw yn sgil hynny.
Mae'r cynllun mentora, sy'n rhan o strategaeth Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru, wedi gweld adrannau ieithoedd ym mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth yn gweithio gyda'i gilydd i hyfforddi israddedigion i fod yn fentoriaid ar gyfer disgyblion mewn ysgolion uwchradd lleol.
Mae tystiolaeth gan fentoriaid a’r rhai sydd wedi cael eu mentora hyd yma, yn awgrymu bod y profiad yn un cadarnhaol iawn i fyfyrwyr a’i fod yn ysgogi mwy o ddyhead i astudio ieithoedd ar lefel TGAU.
Mae'r cynllun yn adeiladu ar y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd rhwng prifysgolion ac ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys Llwybrau at Ieithoedd Cymru (lle mae prifysgolion yn cymryd rhan mewn rhaglenni allgymorth gyda disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd lleol).
Yn ogystal â chreu cysylltiadau cynaliadwy rhwng Adrannau Ieithoedd Tramor Modern Addysg Uwch ac ysgolion uwchradd, bydd y cynllun yn cynnig profiadau o ran cyflogadwyedd a chyfleoedd i israddedigion ieithoedd modern.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ebrill 2017