Disgyblion Ysgol Bro Lleu i gymryd rhan yng Ngŵyl Gerdd Bangor
Bydd disgyblion yn defnyddion eu cyrff fel offerynnau i greu cyfansoddiadau eu hunain yn mewn gŵyl lwyddiannus yng Ngogledd Cymru.
Gwahoddwyd disgyblion 9 a 10 oed o Ysgol Bro Lleu, Penygroes i gymryd rhan bwysgig yng Ngŵyl Gerdd Bangor fydd yn cymryd lle ar yr 8fed a 9fed o Chwefror 2019.
Creu cyfansoddiad grŵp ei hunain yn defnyddio offerynnau taro yn ogystal â tharo’r corff yw nod y prosiect. Bydd y proseict yn rhoi cyfle prin i ddisgyblion blwyddyn 4 a 5 yr ysgol archwilio cerddoriaeth mewn ffordd anarferol a chynyddu eu hyder wrth berfformio mewn grŵp, yn enwedig o flaen cynulleidfa’r ŵyl.
Dywed y cyfansoddwr talentog ifanc Sarah Lianne Lewis sy’n arwain y prosiect: “Yn yr hinsawdd bresennol lle mae’r gerddoriaeth yn cael ei anwybyddu gan y llywodraeth o blaid pynciau STEM, rydym mewn perygl na fydd plant yn cael mynediad i addysg gerddorol am ddim. Drwy’r prosiect hwn – ac yn y prosiect y rhedais gyda Gŵyl Gerdd Bangor ddwy flynedd yn ôl – mae’n galonogol gweld faint mae’r plant yn ffynnu pan byddant yn cael eu hannog i fod yn greadigol ac archwilio cerddoriaeth heb ffiniau.”
Yn ôl cyfarwyddwr artistig yr ŵyl, Dr Guto Pryderi Puw, sydd yn Unwch Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth a Phennaeth Cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor, bydd yr ŵyl ddeuddydd yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau addysgol a chymunedol ochr yn ochr â chyngherddau cerdd sydd wedi’u cysylltu’n agos â’r thema, acwsteg.
Dywedodd: “Mae gallu gweithio gydag ysgolion lleol i wella eu darpariaeth gerddoriaeth ymhellach yn uchel iawn yn flaenoriaethau’r ŵyl, gan ein bod yn buddsoddi yn y dyfodol. Dylai cerddoriaeth fod ar gael i bawb ac gyda’r prosiect hwn rydym yn ymwneud yn uniongyrchol â disgyblion wrth greu a pherfformio cerddoriaeth”
Bydd cyfansoddiad gan y gyfansoddwraig Cymreig Sarah Lianne Lewis, sy’n byw ym Mhenarth ger Gaerdydd, yn cael ei gynnwys fel rhan o raglen cyngherdd ensemble UPROAR. ‘mind the gap’ yw teitl y cyfansoddiad a bydd yn cael ei berfformio yn Theatr Bryn Terfel, Pontio ychydig ar ôl i Ensemble Cerddoriaeth Newydd Banor berfformio ‘Those Echos Around’ ganddi yn nghynharach yn y prynhawn.
Dywedodd Sarah: “Pan oeddwn i’n blentyn, cawsom lawer o weithdai cerddoriaeth yn yr ysgol, gan archwilio cerddoriaeth a dawns ac offerynnau taro Affricannaidd ymhlith nifer o bethau eraill. Fe wnaeth y gweithdai hyn fy helpu i archwilio patrymau a chreadigrwydd a helpodd i lunio fi fel cerddor. Rwy’n gobeithio y bydd y profiad o fod yn rhan o’r ŵyl hon yn annog y plant i feddwl yn fwy greadigol a mwynhau gwneud cerddoriaeth fel fi.”
Dros y pythefnos diwethad mae Lewis wedi ymweld ag Ysgol Bro Lleu ym Mhenygroes i arwain dau weithdy cyfansoddi a pherfformio yn canolbwynio ar elfennau cerddorol, yn enwedig rhythm ac ailadrodd. Bydd y cyfansoddiad yn cael ei gynnwys yn y digwyddiad Boom 2, ochr yn ochr â darnau eraill ar gyfer ensemble o Boomwhakers, a chwaraeir gan fyfyrwyr cerdd o Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor.
Artistiaid eraill fydd yn rhan o’r ŵyl fydd y ffliwtydd Richard Craig gyda Electroacwstig CYMRU yn ystod y cyngerdd am 1y.h ar prynhawn dydd Sadwrn.
Ar y nos Wener bydd y Cerddorfa Gliniadur Abertawe anarferol yn perfformio cyfansoddiadau newydd gan chwech o artistiaid sain Cymreig, sy’n defnyddio rheolwyr gemau Xbox i greu a pherfformio’r gerddoriaeth.
Bydd Marie-Claire Howorth yn cyflwyno sesiynau Camau Cerdd gan ganolbwyntio ar ‘eco’ ac fe’u hanelir at grwpiau oedran gwahanol, ar gyfer plant 15mis i dair oed ac o bedwar hyd at saith.
A fwy o wybodaeth ewch i: www.gwylgerddbangor.org.uk
Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2019