Disgyblion ysgol yn creu aspirin ym Mhrifysgol Bangor
Cymerodd dros 50 o ddisgyblion ysgol o ogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr ran yn nigwyddiad ChemPharma ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Nod y digwyddiad oedd i’r disgyblion gael profiad o gemeg mewn lleoliad Prifysgol a rhoi dealltwriaeth o sut mae deunyddiau fferyllol yn cael eu gwneud, drwy ddangos faint o waith dadansoddi a phrofi sy’n cael ei wneud cyn y gall cyffur fod ar gael.
Bu’r disgyblion Blwyddyn 12 mewn gweithdy â thema fferyllol a gynhaliwyd yn y labordai cemeg, lle cawsant gyfle i syntheseiddio aspirin. Mae'r arbrawf a osodwyd ar gyfer yr ysgolion yn debyg i'r un a gynhaliwyd gan israddedigion Cemeg yn eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol.
Yn dilyn y gweithdy ymarferol, cawsant gyfle i gyfarfod Dr John Roberts, Cyfarwyddwr Masnachol Penn Pharma, Gwent. Siaradodd am gyfleoedd gyrfa yn y diwydiant fferyllol, ac eglurodd strwythur y diwydiant fferyllol, meysydd ymchwil a datblygu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a'r amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael i raddedigion gwyddorau cemeg a bywyd iddynt.
Dywedodd Hayley Evans, athrawes yn Ysgol Alun Yr Wyddgrug: "Roedd Chempharma yn gyfle gwych i’r disgyblion brofi annibyniaeth mewn labordy prifysgol. Roedd y diwrnod yn eu hannog i feddwl drostynt eu hunain a dylai roi hyder iddyn nhw yn yr arholiad ymarferol A2 flwyddyn nesaf."
Dywedodd Helen Williams, athrawes yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy: "Roedd hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc fynd i’r afael â chemeg go iawn. Syntheseiddio cemegyn maent i gyd yn gyfarwydd ag ef, defnyddio offer a phrosesau maen nhw’n tueddu i astudio’i theori’n unig. Profiad ymarferol go iawn."
Meddai Stevie Scanlan, Rheolwr Marchnata ar gyfer yr Ysgol Cemeg: "Mae'r gefnogaeth yr ydym yn ei derbyn gan gwmnïau fel Penn yn ein galluogi i gynnal digwyddiadau sydd nid yn unig yn ategu cwricwlwm yr ysgol, ond y gobaith yw, dangos i ddisgyblion lleol bod astudio a chyfleoedd gwaith dilynol ar gael yn lleol."
Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau cemeg i ysgolion, ewch i’r wefan www.bangor.ac.uk/cemeg
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2013