DIWEDDARIAD PWYSIG Atal Addysgu 16-20 Mawrth
Oherwydd fod y sefyllfa Covid-19 yn newid mor gyflym, ac yn unol â llawer o brifysgolion eraill, mae’r Pwyllgor Gweithredu wedi penderfynu atal yr holl addysgu wyneb yn wyneb yn syth, hyd ddiwedd y flwyddyn academaidd. Yn hytrach, o ddydd Llun 23 Mawrth ymlaen bydd yr holl addysgu a deunyddiau dysgu eraill yn cael eu cyflwyno ar-lein i'ch galluogi i barhau â'ch astudiaethau. Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir.
Mae'r Brifysgol yn cymryd y camau hyn ar gyfer iechyd, diogelwch a lles staff, myfyrwyr a'r gymuned ehangach. Er nad oes disgwyl i fyfyrwyr adael y brifysgol, mae'r wythnos bontio hon o addysgu wyneb yn wyneb i addysgu ar-lein yn rhoi cyfle ichi ddychwelyd adref os dymunwch, yn enwedig oherwydd y sefyllfa deithio sy'n newid yn barhaus. Ni fydd myfyrwyr sy'n dychwelyd adref dan anfantais. Mae'r wythnos bontio hon hefyd yn caniatáu i staff baratoi ymhellach ar gyfer addysgu ar-lein.
Dylai myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gysylltu â'u goruchwyliwr i drafod eu hastudiaethau.
Yn unol â chyrff rheoleiddio cenedlaethol, dylai myfyrwyr y mae eu cwrs yn cynnwys lleoliadau proffesiynol (e.e. y rhai yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol) fynychu lleoliadau fel arfer. Byddwch yn derbyn cyngor pellach gan eich Ysgol yn fuan.
Mae cyfnod arholiadau'r haf yn debygol o gael ei effeithio. Lle bynnag y bo modd, cynhelir asesiad diwedd blwyddyn trwy ddulliau amgen. Gall hyn gynnwys traethodau neu arholiadau llyfr agored, ond ga y cewch eich asesu dim ond mewn ffordd y mae eich astudiaethau wedi eich paratoi ar ei chyfer. Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn ystod y ddwy i dair wythnos nesaf.
Mae'r Brifysgol yn parhau ar agor fel arfer, gan gynnwys Neuaddau a Llyfrgelloedd, a bydd staff ar gael i ddarparu cyngor a gofal bugeiliol i fyfyrwyr.
Bydd e-bost pellach, manylach yn cael ei anfon erbyn diwedd yfory.
Yn olaf, hoffwn eich sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch cefnogi yn ystod yr amser anodd hwn. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn:
https://www.bangor.ac.uk/governance-and-compliance/coronavirus-student.php.cy
Neu o Undeb y Myfyrwyr.
Yr Athro Iwan Davies
Is-ganghellor
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2020