Diwrnod Coffau’r Holocost
Bydd pobl yng Ngwynedd yn ymuno a miloedd o wahanol genhedloedd y byd i gofio’r diniwed sydd wedi dioddef hil-laddiad mewn hanes modern.
Cynhelir gwasanaeth yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor ar ddydd Gwener, 25 Ionawr 2013 fel rhan o Ddiwrnod Coffau’r Holocost.
Mae Diwrnod Coffau’r Holocost yn cofio achosion o hil-laddiad yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn ogystal â thrychinebau mwy diweddar yn Cambodia, Bosnia, Rwanda a Darfur.
Bwriad Diwrnod Coffau’r Holocost yw ysgogi pobl i wneud yn siŵr nad yw digwyddiadau dychrynllyd a wnaed yn ystod yr Holocost, ac yn fwy diweddar ar ffurf hil-laddiad, yn cael eu hanghofio na’u hailadrodd, naill ai yn Ewrop nag yng ngweddill y byd.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Selwyn Griffiths: “Mae croeso i bawb fynychu’r gwasanaeth yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, gan ymuno a miloedd o bobl drwy’r byd i gofio’r gorffennol a gosod seiliau ar gyfer byd diogel a theg i’r dyfodol.”
Ychwanegodd Mr Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor: “Mae'n anrhydedd i ni fel Prifysgol gael cynnal digwyddiad o'r fath bwys a Diwrnod Coffau'r Holocost blynyddol.”
Cynhelir y gwasanaeth yn Neuadd Reichel , Prifysgol Bangor am 10.30am ddydd Gwener, 25 Ionawr 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2013