Diwrnod Coffau’r Holocost
Mae’n anrhydedd i Brifysgol Bangor gael cefnogi gwasanaeth Diwrnod Coffau’r Holocost sydd i’w gynnal eleni yn Siambr Dafydd Orwig, Pencadlys Cyngor Gwynedd, Caernarfon, ddydd Mercher, 27 Ionawr 2016.
Mae Diwrnod Coffau’r Holocost yn cofio achosion o hil-laddiad yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn ogystal â thrychinebau mwy diweddar yn Cambodia, Bosnia, Rwanda a Darfur.
Bwriad Diwrnod Coffau’r Holocost yw ysgogi pobl i wneud yn siŵr nad yw digwyddiadau dychrynllyd a wnaed yn ystod yr Holocost, ac yn fwy diweddar ar ffurf hil-laddiad, yn cael eu hanghofio na’u hailadrodd, naill ai yn Ewrop nag yng ngweddill y byd.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dilwyn Morgan: “Mae croeso i bawb fynychu’r gwasanaeth yn Siambr Dafydd Orwig, gan ymuno a miloedd o bobl drwy’r byd i gofio’r gorffennol a gosod seiliau ar gyfer byd diogel a theg i’r dyfodol.”
Cynhelir y Gwasanaeth yn Siambr Dafydd Orwig, Pencadlys Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon am 10.30 am ddydd Mercher 27 Ionawr.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2016