Diwrnod Ffilm a Diwylliant Almaeneg
Yn ddiweddar, trefnodd Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Bangor ar y cyd gyda Llwybrau at Ieithoedd, Ddiwrnod Ffilm a Diwylliant Almaeneg, lle daeth myfyrwyr Safon TGAU ac Uwch a'u hathrawon o ysgolion gogledd Cymru.
Yn ystod y bore cynhaliwyd gweithdai gan Dr Linda Shortt yn ymwneud â'r ffilm Good Bye Lenin, un o'r ffilmiau o faes llafur Safon Uwch Almaeneg CBAC. Roedd hwn yn gyfle i'r myfyrwyr, a oedd wedi gwylio'r ffilm cyn dod i Fangor, ymestyn eu dealltwriaeth ohoni ac ehangu eu geirfa Almaeneg.
Yn ystod y prynhawn testun gweithdy diwylliannol Dr Anna Saunders oedd rôl cofadeiladau yn yr Almaen gyfoes, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â'r Holocost a Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen. Mewn gweithdy rhyngweithiol wedyn bu'r myfyrwyr yn archwilio amrywiaeth o astudiaethau achos, ac yn dylunio eu cofadeil eu hunain i goffáu digwyddiadau neu bobl allweddol yn hanes diweddar yr Almaen. Yn ystod sesiwn olaf y diwrnod cafwyd cyflwyniadau am eu syniadau gan bob un o'r grwpiau.
Yn ystod y dydd roedd pedair myfyriwr ieithoedd Prifysgol Bangor, Susie Turnbull, Emma Noakes, a Cristina Galisi, yn cynorthwyo gyda'r gweithdai ac yn sgwrsio am eu profiad o astudio ieithoedd ac ymweld â gwledydd eraill.
Roedd adborth am y digwyddiad yn gadarnhaol iawn a chydnabuwyd safon a pherthnasedd y gweithdai gan y myfyrwyr a'r athrawon. Tynnwyd sylw at y themâu hynod ddiddorol, a’r neges o ysbridoliaeth. Nodwyd fod y digwyddiad wedi bod yn 'ddiddorol a defnyddiol iawn'. Dywedodd pawb fel ei gilydd yr hoffent ddod i ddigwyddiad tebyg yn y dyfodol, yn ogystal â pharhau dysgu ieithoedd.
Lluniau ar gael yma:
http://www.flickr.com/photos/routesintolanguages/sets/72157634535434652/
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2013