Diwrnod Hwyl y Brenin Arthur
Rydym i gyd yn mwynhau clywed straeon a chwedlau am y Brenin Arthur, boed hynny mewn llyfr neu ar ffilm. Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cyfle arbennig i gael llu o brofiadau Arthuraidd trwy gynnal Diwrnod Hwyl y Brenin Arthur. Bydd y Diwrnod yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys adrodd straeon, ail-greu rhannau o’r chwedlau a gemau.
Cynhelir Diwrnod Hwyl y Brenin Arthur ar ddydd Sadwrn 27 Mehefin ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor ar Ffordd y Coleg rhwng 1pm a 4pm ac mae mynediad am ddim. Yn ogystal â chael y cyfle i wrando ar storïwyr Cymraeg a Saesneg, cewch wylio rhannau o’r chwedlau’n cael eu hail-greu a chael ‘gwisgo’ fel marchog. Ymysg y gweithgareddau eraill bydd arddangosfa o lyfrau prin, perfformiad o ddarn byr o’r Mabinogi, sgwrs am greu llyfrau llawysgrif y canoloesoedd, celf a chrefft, helfa drysor yn chwilio am y ‘greal sanctaidd’, a llawer mwy!
Mae’r Diwrnod Hwyl yn cael ei drefnu gan Wasanaeth Llyfrgell ac Archifau y Brifysgol ynghyd a’r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg, gyda chymorth gan Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau a Chanolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol, a bydd yn dathlu’r traddodiad rhyngwladol di-dor o ymchwil ac ysgolheictod ym maes llenyddiaeth Arthuraidd. Mae’r diwrnod hefyd yn tynnu sylw at gasgliad o lyfrau am y chwedlau Arthuraidd sydd wedi cael eu dwyn ynghyd yn ddiweddar o gasgliadau’r Brifysgol a chasgliad Harries Sir y Fflint.
Dywedodd Dr Raluca Radulescu, sy’n arwain Astudiaethau Arthuraidd yn y Brifysgol:
'Mae’n bleser mawr cael trefnu digwyddiad ar y raddfa yma, sy’n cynnwys y gymuned a chymaint o aelodau staff brwdfrydig. Mae llawer o waith meddwl tu ôl i gynllunio’r Diwrnod a bydd yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd dysgu ac adloniant i oedolion a phlant. Edrychwn ymlaen at groesawu staff, myfyrwyr a’r gymuned leol i Lyfrgell y Brifysgol am ychydig oriau o Hwyl gyda’r Brenin Arthur!'
Ychwanegodd Shan Robinson o Wasanaeth Llyfrgell ac Achifau’r Brifysgol: “Mae’n bwysig rhoi cyfle i bawb weld ein casgliadau gwych a bydd y digwyddiad hwn yn rhoi sylw arbennig i’n casgliad Arthuraidd. Rydym hefyd eisiau i’r cyhoedd allu profi perfformiad o’r Mabinogi, gan rai o’n myfyrwyr talentog, a fydd yn cael ei lwyfannu yng Ngŵyl Ymylol Caeredin fis Awst.”
Mae rhagor o weithgareddau’n cael eu cynllunio ar gyfer yr hydref, gan gynnwys digwyddiad ar y cyd rhwng Castell Caernarfon ac ysgolion lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2015