Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith - Myfyrwyr yn dysgu ieithoedd lleiafrifol am ddiwrnod
Daeth yr Ysgolion Ieithyddiaeth ac Ieithoedd Modern ynghyd i gynnal digwyddiad i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith UNESCO ddydd Mercher, 23 Chwefror.
Ysbryd y diwrnod oedd trefnu gwahanol fathau o ddigwyddiadau’n gysylltiedig ag iaith, gan ganolbwyntio’n benodol ar ieithoedd lleiafrifol. Roedd yr ieithoedd a gynrychiolwyd ar y diwrnod yn cynnwys Catalaneg, Ffriwleg (a siaredir mewn ardal fechan yng ngogledd ddwyrain yr Eidal ar yr Alpau), Galiseg, Gwyddeleg, Lombardeg a Chymraeg.
Roedd yr Ysgol yn gobeithio dod ag aelodau staff sy’n siarad iaith leiafrifol ynghyd, drwy ofyn iddynt ddysgu myfyriwr i ddarllen darn byr neu gerdd yn eu hiaith. Fe wnaeth staff hefyd baratoi eglurhad byr, hanes yr iaith ynghyd â chyfieithiad Saesneg o’r darn a ddewiswyd.
Trefnwyd y digwyddiad gan Dr. Marco Tamburelli, darlithydd mewn Dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor, a Dr Helena Miguelez, darlithydd Sbaeneg yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Bangor. Meddai Dr Tamburelli: “Mi wnaethom gynnal y digwyddiad oherwydd ein bod yn rhannu cred UNESCO bod amrywiaeth ieithyddol yn rhywbeth i’w ddathlu.
Yn ogystal, mae gan nifer o staff yn yr Ysgol Ieithyddiaeth a’r Ysgol Ieithoedd Modern ddiddordeb mewn materion a pholisïau ieithoedd lleiafrifol fel cynnal iaith a hawliau iaith.
Gan fod y diwrnod fel rheol yn canolbwyntio ar ieithoedd lleiafrifol a rhai llai adnabyddus (fel y sylweddolwch, gall ieithoedd lleiafrifol ofalu amdanynt eu hunain heb orfod cael diwrnod wedi’i neilltuo ar eu cyfer...), roedden ni’n credu y byddai’n ffordd dda i godi ymwybyddiaeth.
“Hefyd, rydym ni’n canfod er bod pobl o bosibl wedi clywed am enw llawer o ieithoedd llai Ewrop, nid oes ganddynt bob amser syniad sut maent yn swnio, a byddai hyn yn gyfle da i gael ‘blas’ arnynt.
“Mae’n debyg bod y rhesymau yr ydw i newydd eu nodi hefyd yn rhyw fath o ddweud wrthych yr hyn y gobeithiwn ei gyflawni, ond efallai y dylwn ychwanegu y gobeithiwn gael mwy o bobl i gymryd diddordeb yn yr ieithoedd bychan a gynrychiolir gan ein Hysgolion, ac mewn materion ieithoedd lleiafrifol yn gyffredinol.
"Rydym ni’n gobeithio efallai y bydd rhai o’n cynulleidfa’n dymuno dod i wybod mwy am rai o’r ieithoedd, gyda rhai ymchwilwyr o bosibl yn magu diddordeb mewn gweithio ar un neu ragor o’r ieithoedd eu hunain neu ar faterion a godir gan sefyllfaoedd cymdeithasol (neilltuol weithiau) y siaredir hwy ynddynt.”
Bwriad Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith yw ‘hyrwyddo cadwraeth a gwarchodaeth yr holl ieithoedd a ddefnyddir gan bobl y byd ". Mae Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith wedi cael ei ddathlu bob blwyddyn ers Chwefror 2000 i hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol ac amlieithrwydd. Mae’r dyddiad yn cynrychioli’r diwrnod yn 1952 pan fu i fyfyrwyr a oedd yn gwrthdystio am gydnabyddiaeth i’w hiaith, Bangla, fel un o ddwy iaith genedlaethol yr hyn a oedd bryd hynny’n Pacistan, gael eu saethu a’u lladd gan heddlu yn Dhaka, prifddinas y wlad yr ydym yn ei hadnabod fel Bangladesh yn awr.
Cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Mercher, 23 Chwefror yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, yn yr ystafell a elwir yn "Tricolore". Cafodd ei ffilmio fel y gellir ei anfon fel cyfraniad at wefan UNESCO lle ceir casgliad o wahanol fentrau ar Ddiwrnod Rhyngwladol Mamiaith.
Cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol UNESCO ei hun ddydd Llun, 21 Chwefror.
Gellwch weld tudalen swyddogol UNESCO yma
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2011