Diwrnod Sinema Siapan
Bydd cyfle i ffans weld dwy ffilm unigryw ar ddydd Sadwrn 25 Chwefror fel rhan o Ddiwrnod Sinema Siapan gyntaf Prifysgol Bangor.
Mae’r digwyddiad, sy'n dathlu hanes sinematig Siapan, yn dechrau am 2pm ac yn cynnwys dwy awr o seminarau anffurfiol a dwy ffilm.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ond mae llefydd yn brin felly mae angen eu neilltuo o flaen llaw. Anfonwch e-bost iJapaneseCinemaDay@gmail.com i gadw lle neu i ofyn unrhyw gwestiynau.
Bydd y seminarau yn rhoi trosolwg o hanes Siapan sinematig a dangos sut mae sinema, diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth o Siapan yn cyd-fynd.
Y ffilm gyntaf fydd The Most Beautiful (Ichiban utsukushiku, 1944), gan Kurosawa Akira. Mae’r ffilm propaganda yn canolbwyntio ar fenywod ifanc sy'n gweithio mewn ffatri lens yn ystod y rhyfel yn Siapan.
Yr ail ffilm yw enillydd Gŵyl Ffilm Berlin, Caterpillar (Kyatapirâm, 2011), a gyfarwyddwyd gan Wakamatsu Koji. Mae'r ffilm hon yn canolbwyntio ar sefyllfa anffodus gwraig o Siapan pan mae ei gŵr anabl yn dychwelyd o rhyfel y Môr Tawel. Nodwch nad yw y ffilm hon yn addas ar gyfer unrhyw un o dan 18 oed.
Mae'r dwy ffilm yn nodweddiadol o'r newidiadau sydd wedi digwydd yn Siapan dros wyth degawd ac yn dangos sut mae sinema’r wlad wedi datblygu.
Ar ôl y seminar fe fydd yna sesiwn holi ac ateb. Bydd y diwrnod yn gorffen gyda mwyn traddodiadol neu win reis Siapan a byrbrydau edamame ffa soia.
Dywedodd y trefnydd Dr Kate Taylor-Jones, Darlithydd mewn Diwylliant Gweledol o'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor: "Mae'r digwyddiad wedi ei anelu at bawb, er na ellir Caterpillar cael ei weld gan unigolion dan 18 oed. Mae dysgu am hanes sinema Siapaneaidd yn ffordd dda o ddeall mwy am Siapan a rhanbarth Dwyrain Asia.
"Mae'r diwrnod yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes, Asia, gwleidyddiaeth a chelf. Mae'n gyfle i fwynhau dwy ffilm a diwylliant ar yr un adeg. Mae hwn yn ddigwyddiad unigryw rhad ac am ddim mewn maes cyffrous a diddorol. Efallai y byddwch hyd yn oed yn dysgu ychydig o ymadroddion Siapan. "
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a ‘Great British Sasakawa Foundation’.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2012