Diwylliannau, Heriau ac anghyfiawnderau: Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yng Ngŵyl Gwyddorau Cymdeithasol Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol eto eleni, gan estyn gwahoddiad i’r cyhoedd fynychu amrediad eang o ddigwyddiadau.
Bydd disgyblion Blwyddyn 12 a 13 yn ymweld â’r Brifysgol ar 6 Tachwedd i gymryd rhan mewn gweithdai a seminarau a fydd yn trafod y gwahanol fathau o anghyfiawnder a gaiff eu profi gan bobl sy'n byw yng Nghymru a Lloegr yn yr unfed ganrif ar hugain.
Bydd cynhadledd Agwedd o anghyfiawnder: Gwyddorau cymdeithasol a chyfiawnder cymdeithasol hefyd yn tynnu sylw at y rôl y gall ymchwil gwyddorau cymdeithasol ei chwarae wrth ymladd yn erbyn yr anghyfiawnderau hyn ac wrth ddod o hyd i atebion i broblemau cymdeithasol.
Meddai Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas:
“Drwy ddarparu cyfle i’r myfyrwyr drafod eu profiadau hwy o droseddu a chyfiawnder troseddol; problemau sy'n ymwneud â stigma a gwahaniaethu a materion cyfoes eraill, cânt gyfle i weld sut mae cymdeithas yn ymdrin â’r problemau hyn a sut mae astudio cymdeithas ym mhob ffurf yn fodd i ni wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas. Wrth gymryd rhan yn y fath fodd, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau dadansoddol a beirniadol sydd o werth yn y gweithle.”
Daw diwygiadau i’r system les dan y chwyddwydr ar 9 Tachwedd mewn digwyddiad sydd dwyn ynghyd gynrychiolwyr awdurdodau lleol, cynrychiolwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau, ymgynghorwyr Cyngor ar Bopeth, aelodau’r cyhoedd ac academyddion, i drafod Credyd Cynhwysol: Her diwygio lles.
Pa effaith mae cyflwyno’r Credyd Cynhwysol wedi’i gael hyd yma ar bobl sy’n byw yn y DU, a pha effaith y gallai ei gael yn y dyfodol? Bydd y digwyddiad hwn yn trafod effaith diwygio lles ar agweddau megis diogelwch bwyd, tai cymdeithasol, cynhwysiant digidol a lles cenedlaethau'r dyfodol.
Esboniodd y trefnydd, Dr David Beck, sut y bydd y digwyddiad yn gyfle i lunwyr polisi gymryd cam yn ôl i ystyried sut y gallai'r newidiadau effeithio sefydliadau amrywiol yn yr ardal leol.
Meddai: “Mae lledaenu Credyd Cynhwysol fel diwygiad i’r ffordd y mae lles yn cael ei weinyddu wedi bod yn her anferthol i’r llywodraeth hyd yn hyn. Mae Adrannau’r Llywodraeth ei hun hyd yn oed yn cael trafferth i drefnu’r newid polisi o bwys hwn. Nod y digwyddiad yw ysgogi ychydig o eglurder drwy drafodaeth am Gredyd Cynhwysol, a sut y bydd sefydliadau sydd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r unigolion a effeithir am ymateb i’r her.”
Wedi'i dargedu at lunwyr polisi lleol, bydd y fforwm yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau, gweithdai a thrafodaethau drwy gydol y dydd. Bydd aelodau o awdurdodau lleol sy'n gwasanaethu cymunedau lle mae Credyd Cynhwysol eisoes wedi'i gyflwyno wrth law i drafod yr effaith y mae wedi’i gael ar wasanaethau.
Yn ogystal, gwahoddir pobl leol i brofi gweithgareddau sydd yn deillio o ddiwylliannau eraill: mae Diwrnod Diwylliannau Mabwysiedig yn digwydd yn Pontio rhwng 10.30 – 16.30 Dydd Sadwrn 10 Tachwedd 2018. Mae gwahoddiad agored i bobl ddod i wylio arddangosiadau, mynychu sesiwn sgwrs a thrafodaeth neu brofi ymarferiadau an-Orllewinol megis ioga, capoeira a salsa.
Meddai trefnydd y digwyddiad, Jochen Eisentraut:
“Mae nifer o grwpiau lleol sydd yn ymarfer mathau o ddawns, cerddoriaeth neu symudiad, sydd yn deillio o ddiwylliannau pell. Boent yn deillio o India, Brasil neu Giwba, mae’r gweithgareddau i’w mwynhau, yn gymdeithasol ac yn llesol, ac yn aml mae ystyr ddwfn y tu cefn iddynt hefyd. Yn ogystal, maent yn ein hysgogi i ystyried ein perthynas gyda diwylliannau eraill, a’n diwylliant ni’n hunain.”
Gŵyl Gwyddor Cymdeithas yr ESRC yw dathliad mwyaf y DU o wyddorau cymdeithas, ac mae’n rhoi sylw i effaith gwyddorau cymdeithas ar fywydau pob dydd pobl.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018